"Llyfr y Post Offis. Mae gin i dros ganpunt yn fan 'no." A dychwelodd y paciwr i'r drôr fach i nôl y llyfr. Penderfynodd Leusa grio eto.
"Hancas," meddai William Jones, gan estyn un iddi.
"Tria roi rhyw synnwyr yn 'i ben o, Ifan," ochneidiodd hithau.
"Petha' shefio.... Na, mi fydda' i isio'r rheini bora 'fory."
"William!" meddai Ifan Davies yn ei lais mwyaf awdurdodol.
"Sgidia' gwaith. Gwell imi fynd â nhw." A brysiodd i lawr y grisiau.
Arhosodd y brawd a'r chwaer yn syn ac amyneddgar wrth y fasged wellt, ond ni ddychwelodd ei pherchennog ati. Yn lle hynny, brysiodd drwy'r pentref i "ddeud gwd-bei" wrth Bob Gruffydd, ei bartner. Cafodd hwnnw ar fin troi i'w wely, a gwrandawodd ef a'i wraig yn geg-agored ar stori William Jones. Beth am ei waith yn y chwarel? Beth a wnâi ym "mhen draw'r byd," a miloedd yno yn gorfod loetran wrth gonglau'r ystrydoedd? Beth ped âi Leusa at gyfreithiwr? Beth am y tŷ a'r rhent a'r dodrefn? Beth am ...? Ond ymddangosai'r dihiryn fel petai uwchlaw mân ofidiau'r llawr. "O, mi fydda' i'n olreit," oedd ei ateb i bopeth.
Yr oedd ei gamau'n rhai cyflym a chadarn drwy'r pentref pan droes adref tuag un ar ddeg.