Tudalen:William-Jones.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y cwt lle gweithiai, ni fyddai ei ben yn agos i'r nenfwd ond ymestynai ei gorff tenau ar draws y cwt. Felly y cofiai Wili yr Hen Gron, bob amser wrth ei waith yn y cwt, heb fyth fentro allan i'r pentref, yn cnoi da-da extra-strong ac yn darllen ei Feibl. Ni welech ef heb ei Feibl yn agored o'i flaen ar y fainc-weithio, ac wrth ochr hwnnw yr oedd cwdyn papur yn cynnwys y da-da bychain crynion. Pen moel anferth, fel chwysigen o lard, rhyw hanner dwsin o ddannedd go ddrwg yn ei geg, tei heb goler am ei wddf hir, ac ychydig o flew ar ei gorun yn atgofio un i wallt fod yno unwaith. Cofiodd William Jones yr oriau a dreuliai, yn hogyn, yng ngweithdy'r Hen Gron, yn ei wylio wrth y fainc ac yn gwrando ar ei storïau ac yn cael ei gyfran o'r extra-strong. A gwrandawai'n astud ar yr hen glocsiwr yn dadlau â rhywun am ei arwr, yr Apostol Paul.

Yna, rai blynyddoedd wedyn, aeth Meri i weini at yr hen frawd.

Er bod Wili'n ennill ychydig yn y chwarel a'i fam wrthi hefo'r golchi o fore tan nos, ni ddeuai'r ddau ben-llinyn ynghyd. Penderfynasai Ann Jones gadw Meri yn yr ysgol, ond bu raid iddi ei thynnu oddi yno yn y diwedd a'i gyrru i weini i dŷ Huws y Stiward. Câi redeg adref i de bob prynhawn Mercher a dyfod i'r capel bob nos Sul, ac ymddangosai'n bur hapus. Ymddangos felly yr oedd, gan siarad pymtheg y dwsin i guddio'i hannedwyddwch. Rhedai adref weithiau gan benderfynu na ddychwelai i dŷ Huws, ond pan welai ymdrech ddewr ei mam hefo'r golchi, ymwrolai a chuddio'r ing yn ei chalon. Yna, un diwrnod, torrodd i feichio crio uwch ei the.

Diwrnod tua diwedd Mawrth oedd, a gwynt y dwyrain yn rhewi pob pwll a phob afon. Yn gynnar yn y bore, gyrrodd Jane Huws Meri i'r llofftydd i lanhau'r ffenestri. Hyd yn oed ar dywydd braf, casâi hi'r gwaith, oherwydd yr oedd yn rhaid iddi eistedd ar silff ffenestr gan gydio yn y ffrâm ag un llaw a glanhau'r gwydr â'r llall, heb feiddio taflu golwg i'r ardd islaw. Y bore hwnnw o Fawrth, cyn gynted ag yr agorodd y ffenestr, neidiodd y gwynt arni, gan chwibanu a chwerthin a bloeddio fel un gwallgof. Er hynny, ymlusgodd i eistedd ar y silff ac, er bod ei dwylo wedi fferru, rhwbiodd y gwydr yn wyllt. "Yn sydyn llithrodd hanner isaf y ffenestr, a bwysai ar ei gliniau, i fyny ychydig, a gollyngodd hithau ei chadachau, gan sgrechian mewn dychryn a chydio yn y ffrâm