Tudalen:William-Jones.djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

GAN na chredodd neb mohonof pan ddywedais mai dychmygol oedd lle a chymeriadau fy nofel gyntaf, "O Law i Law," efallai mai gwell imi ddweud bod hon yn wir bob gair. Ar y mapwyr esgeulus y mae'r bai am beidio â rhoi Llan-y-graig a Bryn Glo ar eu mapiau o Gymru,

I'r Parch. D. Llewelyn Jones y mae arnaf ddiolch y tro hwn eto am daflu llygaid craff tros y MS a'r proflenni. Y mae arnaf ddyled hefyd i Ap Nathan am awgrymiadau gwerthfawr ynglŷn â thafodiaith y De. Ac yn bennaf oll, i'm gwraig am syrthio mewn cariad â William Jones.