Tudalen:William-Jones.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

â'i frawd yng nghyfraith. Rhyw un ar bymtheg oedd Eleri, a syllodd ei hewythr yn syn arni gan nad ydoedd hi ond naw pan dalodd Crad a'i deulu eu hymweliad diwethaf â'r Gogledd. Pictiwr o ferch, meddai wrtho'i hun, ond nid oedd golwg rhy raenus arni. Tybiai fod Crad hefyd yn edrych yn llwyd a thenau, ond efallai fod y tywydd poeth 'ma... Rhoes ei fraich am ysgwyddau Eleri, gan ddweud y dylai rhywun roi pwysau ar ben Arfon i'w atal rhag tyfu ychwaneg. Teimlai'n fychan iawn wrth ochr y llanc tal a chydnerth nad oedd ond hogyn rhwng deuddeg a thair ar ddeg pan welsai ef ddiwethaf. Ymddangosai Arfon yn o lewyrchus yn ei siwt olau a'i grys gwddf-agored.

"Pryd ddoist ti adra, Arfon?" gofynnodd iddo.

"Bora 'ma. Trafaelu drwy'r nos."

"O? Sut wyt ti'n licio tua Llundain 'na?"

"Slough, nid Llunden. Oreit, Wncwl William. Oreit, wir, w.' Ond nid oedd argyhoeddiad yn ei lais.

Aethant i lawr y grisiau o'r orsaf ac allan i'r ystryd. Gwelai William Jones amryw o wŷr, rhai ohonynt yn ddigoler, yn loetran wrth siop â'r gair BRACCHI yn fawr arni. Deuai sŵn canu croch o ryw beiriant ynddi, a chafodd y chwarelwr gip ar nifer o lanciau wrth fyrddau chwarae hirgul ac ar eraill yn yfed diodydd lliwiog o wydrau uchel. Yr oedd fel ffair yn y siop, a rhythodd y chwarelwr yn syn arni. Yna daethant at bont tros afon lydan. Afon? Syllodd William Jones i lawr ar ddüwch y dŵr ac ar y clytiau o olew a ymdreiglai hydddo. Gwelodd ddau neu dri o blant yn sefyll yn droednoeth yn y dŵr, gan chwilio â'u dwylo am gerrig llyfnion ynddo.

"Lle go wahanol i Lan-y-graig, William?" meddai Crad, wrth sylwi ar y syndod yn llygaid ei frawd yng nghyfraith.

"Ia, wir, fachgan."

"Y Workmen's Hall," meddai Arfon, gan nodio tuag at y neuadd fawr o briddfaen coch ar y dde iddynt.

"O?"

Safai twr bychan o wŷr dadleugar o'i blaen, un ohonynt—un o gymrodyr Shinc, efallai—yn ysgwyd ei ddwrn yn wyneb tri arall. Daeth y ddau air "Means Test" i glustiau William Jones ac yna, o ffenestri uchaf y neuadd, sgrechian tyrfa o blant yn mwynhau rhyw ffilm.