Tudalen:William-Jones.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

WILLIAM JONES


PENNOD I AR ÔL

CANODD y cloc-larwm.

Gorweddai William Jones yn ei wely a'i freuddwyd yn un pêr. Gwelai wraig dyner a hardd yn ysgwyd cloch uwch ei ben ac yn gwenu'n gariadus arno. Deuai aroglau cig moch i fyny o'r gegin, a gwyddai fod y wraig dyner a hardd yn ei alw at ei frecwast. Cafodd gip ohono'i hun yn rhuthro i'w ddillad ac i lawr y grisiau i'r gegin ; yno gloywai tân yn y grât ac wrth ei le ar y bwrdd yr oedd platiad o gig moch ac wyau. Dau wy. Ni fwytasai ef erioed ddau wy i frecwast, ond teimlai heddiw y gallai wneud cyfiawnder â'r wledd o'i flaen.

. . . Yna deffroes, a diflannodd y breuddwyd.

Syllodd i dywyllwch yr ystafell, gan wrando ar sŵn y cloc-larwm yn gwanhau ac yn marw. Chwech o'r gloch. 'Teimlai'n swrth a blinedig, ond rhaid oedd ymysgwyd i fynd at ei waith. Pum munud bach eto, meddai wrtho'i hun: yr oedd hi'n braf ar ei gefn yn ei wely fel hyn. Caeodd ei lygaid i freuddwydio eto am y wraig dyner a hardd ac am y platiad o gig moch a'r ddau wy. A syrthiodd William Jones i gysgu.

Deffroes yn sydyn i weld goleuni'r dydd yn ymwthio Er ystafell. Y nefoedd fawr, yr oedd hi'n siŵr o fod yn ganiad bron. Bron yn ganiad? Yr oedd hi yn ganiad. Clywai gorn y chwarel yn rhuo yn y pellter, a neidiodd o'i wely. Rhuthrodd i godi'r llen oddi ar y ffenestr, ac wrth redeg yn ei ôl i wisgo, llithrodd mat bychan dan ei draed. Saethodd William Jones i gyfeiriad y bwrdd crwn wrth ochr y gwely, a saethodd y bwrdd yntau i gongl yr ystafell, gan daflu'r cloc- larwm a gwydr y dannedd-gosod yn ffyrnig yn erbyn y mur. Dannedd-gosod ei wraig, hefyd.

"Yn enw popeth, be" wyt ti'n drio'i wneud, ddyn?" gofynnodd Leusa Jones o'r gwely.

"Gwneud campa'," meddai yntau rhwng ei ddannedd.