araeth ar Ddirwest, yn ogystal a chanu Dirwest. Yna rhodd- odd y gadair y cyfarfod yn agored i'r perwyl. Cododd un o Gor Rhif 2-Mr. William Morgan, Pant,-a dywedai :-" Mr. Cadeirydd, Yr wyf yn cofio i mi ddarllen rhyw dro yn Macaulay's History of England sylw fel hyn:- Pe byddai i bobwyr Llundain droi yn gerddorion, a cherddorion Llundain droi yn bobwyr, y tebygolrwydd fuasai y cawsem ni waeth bara, ac hefyd waeth canu.' Felly ei fod yntau yn meddwl mai gwell fyddai i ninnau yma o bob ochr aros yn yr alwedigaeth y'n galwyd iddi; hyny yw, y ffordd debycaf i sicrhau canu da ac areithio da, Let the cobbler stick to his last.' Ond er mwyn cael prawf ar gynnygiad Mr. Davies, yr wyf yn tybio y dylai boneddwr o safle a dylanwad Mr. Davies yn gyntaf roddi i ni esiampl. Gan hyny, yr wyf yn dymuno cynnyg fod i Mr. Davies, Abertawe, ganu tôn." Derbyniwyd y sylw gyda banllefau uchel a hirion o gymeradwyaeth. Yna aethpwyd ymlaen yn hwylus hyd ddiwedd y cyfarfod. Nid rhaid i ni ddywedyd na ddarfu i Mr. Davies ufuddhau ar y pryd drwy ganu tôn, ac ni chlywsom ddarfod iddo wneyd un amser ar ol hyny.