Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

PUMMED LLYFR MOSES,

YR HWN A ELWIR

DEUTERONOMIUM.

PENNOD I.

1 Araith Moses yn niwedd y ddeugeinfed Jìwyddyn, yn adrodd ar fyrr eiriau' yr holl ystori, 6 am addewid Duw, 13 ani osod swyddugion arnynt, 19 am ddanfon yr ys- b'i'wyr i chwilio y wìad, 34 am ddigofaint Duw am eu hanghrediniaeih, 41 a'u han- ufudd-dod hwr/.

DYMA y geiriau a ddywedodd Moses wrth holl Israel, o'r tu yma i'r Iorddonen, yn yr anialwch, ar y rhos gyferbyn a'r môr coch, rliwng Paran, a Tophel, a Laban, a Haseroth, a Dizahab.

2 (Taith un diwrnod ar ddeg sydd Horeb, fibrdd yr cir i fynydd Seir, hyd Cades-Barnea)

3 A bu yn y ddeugeinfed flwyddyn, yn yr unfed mis ar ddeg, ar y dydd cyntaf o'r mis, i Moses lefaru wrth feibion lsrael, yn ol yr hyn oll a orchymynasai yr Arglwydd idcío ci ddywcdyd wrthynt ;

4 Ẅedi iddo ladd Sehon brenhin yr Amor- iaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, ac Og brenhin Basan, yr hwn oedd yn trigo yn Astaroth, o fewn Edrei ;

5 O'r tu yma i'r Iorddonen, yng ngwlad Moab, y dechreuodd Moses egluro y gyfraith hon, gan ddywedyd,

6 Yr Arglwydd ein Duw a lefarodd wrth- ym ni yn Horeb, gan ddywedyd, Digon i chwi drigo hyd yn hyn yn y mynydd hwn :

7 Dychwelwch, achychwynwchrhagoch, ac ewch i fynyddyr Amoriaid, ac i'w holl gyf- agos leoedd ; î'r rhos, i'r mynydd, ac i'r dyffryn, ac i'r dehau, ac i borthladd y môr, i dir y Canaaneaid, ac i Libanus, hyd yr afon fawr, afon Euphrates.

8 Wele, rhoddais y wlad o'ch blaen chwi : ewch i mewn, a pherchenogwch y wlad yr hon a dyngodd yr Arglwydd i ch tadau chwi, i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, ar ei rhoddi iddynt, ac i'w had ar eu hol hwynt.

9 ^I A mi a leferais wrthych yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Ni allaf fì fy hun eich cynnal chwi:

10 Yr Arglwydd eich Duw a'ch llíosogodd chwi ; ac wele, chwi heddyw fel sêr y nef- oedd o lì'osowgrwydd.

11 (Arglwydd Dduw eich tadau a'ch cynnyddo yn fil Ui'osocach nag ydych, ac a ch bendithio, fel y llefarodd efe wrthych)

12 Pa wedd y dygwn fy hun eich blinder, a'ch baich, a'ch ymryson chwi?

13 Moeswch i chwi wýr doethion, a deallus, a rhai hynod trwy eich llwy thau ; fel y^gosod- wyf hwynt yn bennau arnoch chwi.

14 Ac attebasoch fi, a dywedasoch, Da yw gwneuthur y peth a ddywedaist.

15 Cymmerais gan nynny bennau eich llwythau chwi, scf gwyr doethion, a rhai hynod, ac a'u gwneutnum hwynt yn bennau arnoch ; scf yn gapteniaid ar filoedd, ac yn gapteniaid ar gantoedd, ac yn gapteniaid ar ddegau a deugain, ac yn ganteniaid ar ddeg- au, ac yn swyddogion yn eich llwythau chwi.

16 A'r amser hwnnw y gorchymynais i'ch barnwyr chwi, gan ddywedyd, Gwrandewch ddadleuon rhwng eich brodyr, a bernwch yn

120

gyfiawn rhwng gwr a'i frawd, ac â'r dìeithr sydd gyà âg ef.

17 Na chydnabyddwch wynebau mewn barn ; gwraridewch ar y lleiaf, yn gystal ag ar y mwyaf : nac ofnwch wyneb gwr ; oblegid y farn sydd eiddo Duw : a'r peth a fydd rhy galed ì chwi, a ddygwch attaf fi, a mi a i gwrandawaf.

18 Gorchymynais i chwi hefyd yr amser hwn- nw yr holl bethau a ddylecheu gwneuthur.

19 ^f A phan fudasom o Horeb, ni a gerdd- asom trwy yr holl anialwch mawr ac ofnadwy hwnnw, yr hwn a welsoch ffbrdd yr eir % fynydd yr Amoriaid, fel y gorchymynasai yr Arglwydd ein Duw i ni: ac a ddaethom i Cades-Barnea.

20 A dywedais wrthych, Daethoch hyd fynydd yr Amoriaid, yr hwn y mae yr Ar- gla^'ydd ein Duw yn ei roddi ì ni.

21 Wele yr Arglwydd dy Dduw a roddes y wlad o'th flaen : dos i fynu a pherchenoga hi, fel y llefarodd Arglwvdd Dduw dy dadau wrthyt ; nac ofna, ac na lwfrhâ.

22 «f A chwi oll a ddaethoch attaf, ac a ddy- wedasocli, Anfonwn wŷr o'n blaen, a hwy a chwiliant y wlad i ni, ac a fynegant betn i ni am y ffbrdd yr awn i fynu ar hyd-ddi, ac arh y dinasoedd y deuwn i mewn iddynt.

23 A'r peth oedd dda yn fy ngolwg : ac mi a gymmerais ddeuddengwr o honoch, un gwr o hob llwyth.

24 A hwy a droisant, ac a aethant i fynu i'r mynydd, ac a ddaethant hyd ddyffryn Escol, ac a'i chwiliasant ef.

25 Ac a gymmerasant o ffrwyth y tir yn eu llaw, ac a i dygasant i waered attom ni, ac a ddygasant air i ni drachefn, ac a ddy wedas- ant, Da yw y wlad y mae yr Arglwydd ein Duw yn ei rhoddi i ni.

26 Er hynny ni fynnech fyned i fynu, ond gwrthryfelasoch yn erbyn gair yr Ar- olwydd eieh Duw.

27 Grwgnachasoch hefyd yn eich pebyll, a dywedasoch, Am gasâu o'r Arglwydd nyni, y dug efe ni allan o dir yr Aipht i'n rhoddi yn llaw yr Amoriaid, i'n difetha.

28 I ba le yr awn i fynu? ein brodyr a'n digalonnasant ni, gan ddywedyd, Pobl fwy a hwy nâ nyni ydynt; dinasoedd mawrion a chaerog hyd y nefoedd : meibion yr Anaciaid hefyd a welsom ni yno.

29 Yna y dywedais wrthych, Nac arswyd- wch, ac nac ofnwch rhagddynt hwy.

30 Yr Arglwydd eich Duw, yr hwn sydd yn myned o'ch blaen, efe a ymladd drosoch, yn ol yr hyn oll a wnaeth cfe eroch chwi yn yr Aipht o flaen eich llygaia ;

31 Ac yn yr anialwch, lle y gwelaist fel y'th ddug yr Ahglwydd dy DduYv, fel ÿ dwg gwr ei fab, yn yr holl ffordd a gerddas- och, nes eich dyfod i'r man yma.

32 Etto yn y peth hyn ni chredasoch chwi yn yr Arglwydd cich Duw,

33 Yr hwn oedd yn myned o'ch blaen chwi ar hyd y ffbrdd, i chwilio i chwi am le i wersyllu ; y nos mewn tân, i ddangos i chwi pa ffbrdd yr âech, a'r dydd mewn cwmmwl.