Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

20 Dyma feibion Cham, yn ol eu teuluoedd, wrth eu hieithoedd, yn eu gwledydd, ac yn eu cenhedloedd.

21 ¶ I Sem hefyd y ganwyd plant; yntau oedd dad holl feibion Heber, a brawd Japheth yr hynaf.

22 Meibion Sem oedd Elam, ac Assur, ac Arphaxad, a Lud, ac Aram.

23 A meibion Aram; Us, a Hul, a Gether, a Mas.

24 Ac Arphaxad a genhedlodd Selah, a Selah a genhedlodd Heber.

25 Ac i Heber y ganwyd dau o feibion: enw un oedd Peleg; o herwydd yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaear; ac enw ei frawd, Joctan.

26 A Joctan a genhedlodd Almodad, a Saleph, a Hasarmafeth, a Jerah,

27 Hadoram hefyd, ac Usal, a Diclah,

28 Obal hefyd, ac Abimael, a Seba,

29 Ophir hefyd, a Hafilah, a Jobab: yr holl rai hyn oedd feibion Joctan.

30 A'u preswylfa oedd o Mesa, ffordd yr elych i Sephar, mynydd y dwyrain.

31 Dyma feibion Sem, wrth eu teuluoedd, yn ol eu hieithoedd, yn eu gwledydd, trwy eu cenhedloedd.

32 Dyma deuluoedd meibion Noah, wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu cenhedloedd: ac o'r rhai hyn yr ymrannodd y cenhedloedd ar y ddaear wedi y diluw.

PENNOD XI.

1 Un iaith yn y byd. 3 Adeiladaeth Babel. 5 Cymmysgu yr ieithoedd. 10 Cenhedlaethau Sem. 27 Cenhedlaethau Terah tad Abram. 31 Terah yn myned o Ur i Haran.

A'R holl ddaear ydoedd o un iaith, ac o un ymadrodd.

2 A bu, a hwy yn ymdaith o'r dwyrain, gael o honynt wastadedd yn nhir Sinar; ac yno y trigasant.

3 A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Deuwch, gwnawn briddfeini, a llosgwn yn boeth: ac yr ydoedd ganddynt briddfeini yn lle cerrig, a chlai oedd ganddynt yn lle calch.

4 A dywedasant, Moeswch, adeiladwn i ni ddinas, a thŵr, a'i nen hyd y nefoedd, a gwnawn i ni enw, rhag ein gwasgaru ar hyd wyneb yr holl ddaear.

5 A'r ARGLWYDD a ddisgynodd i weled y ddinas a'r tŵr a adeiladai meibion dynion.

6 A dywedodd yr ARGLWYDD, Wele y bobl yn un, ac un iaith iddynt oll, a dyma eu dechreuad hwynt ar weithio: ac yr awr hon nid oes rwystr arnynt am ddim oll a'r a amcanasant ei wneuthur.

7 Deuwch, disgynwn, a chymmysgwn yno ei hiaith hwynt, fel na ddeallont iaith ei gilydd.

8 Felly yr ARGLWYDD a'u gwasgarodd hwynt oddi yno ar hyd wyneb yr holl ddaear; a pheidiasant âg adeiladu y ddinas.

9 Am hynny y gelwir ei henw hi Babel; oblegid yno y cymmysgodd yr ARGLWYDD iaith yr holl ddaear, ac oddi yno y gwasgarodd yr ARGLWYDD hwynt ar hyd wyneb yr holl ddaear.

10 ¶ Dyma genhedlaethau Sem: Sem ydoedd fab can mlwydd, ac a genhedlodd Arphaxad ddwy flynedd wedi y diluw.

11 A Sem a fu fyw wedi iddo genhedlu Arphaxad, bum can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

12 Arphaxad hefyd a fu fyw bymtheng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Selah.

13 Ac Arphaxad a fu fyw gwedi iddo genhedlu Selah, dair o flynyddoedd a phedwar can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

14 Selah hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Heber.

15 A Selah a fu fyw wedi iddo genhedlu Heber, dair o flynyddoedd a phedwar can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

16 Heber hefyd a fu fyw bedair blynedd ar ddeg ar hugain, ac a genhedlodd Peleg.

17 A Heber a fu fyw wedi iddo genhedlu Peleg, ddeng mlynedd ar hugain a phedwar can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

18 Peleg hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Reu.

19 A Pheleg a fu farw gwedi iddo genhedlu Reu, naw o flynyddoedd a dau can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

20 Reu hefyd a fu fyw ddeuddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Serug.

21 A Reu a fu fyw wedi iddo genhedlu Serug, saith o flynyddoedd a dau can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

22 Serug hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Nachor.

23 A Serug a fu fyw wedi iddo genhedlu Nachor, ddau can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

24 Nachor hefyd a fu fyw naw mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Terah.

25 A Nachor a fu fyw wedi iddo genhedlu Terah, onid un flwyddyn chwech ugain mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

26 Terah hefyd a fu fyw ddeng mlynedd a thri ugain, ac a genhedlodd Abram, Nachor, a Haran.

27 ¶ A dyma genhedlaethau Terah: Terah a genhedlodd Abram, Nachor, a Haran; a Haran a genhedlodd Lot.

28 A Haran a fu farw o flaen Terah ei dad, y'ngwlad ei enedigaeth, o fewn Ur y Caldeaid.

29 Yna y cymmerodd Abram a Nachor iddynt wragedd: enw gwraig Abram oedd Sarai; ac enw gwraig Nachor, Milcah, merch Haran, tad Milcah, a thad Iscah.

30 A Sarai oedd ammhlantadwy, heb blentyn iddi.

31 A Therah a gymmerodd Abram ei fab, a Lot fab Haran, mab ei fab, a Sarai ei waudd, gwraig Abram ei fab; a hwy a aethant allan ynghyd o Ur y Caldeaid, i fyned i dir Canaan; ac a ddaethant hyd yn Haran, ac a drigasant yno.

32 A dyddiau Tera oedd bum mlynedd a dau can mlynedd: a bu farw Tera yn Haran.


PENNOD XII.

1 Duw yn galw Abram, ac yn ei fendithio ef trwy addewid o Grist. 4 Yntau yn myned gyd â Lot o Haran. 6 Yn tramwy trwy wlad Canaan, 7 yr hon a addewir iddo ef mewn gweledigaeth. 10 Newyn yn ei yrru ef i'r Aipht. 11 Ofn yn peri iddo ef ddywedyd mai ei chwaer oedd ei wraig. 14 Pharaoh, wedi ei dwyn hi oddi arno ef, a gymhellir gan bläau i'w rhoddi hi yn ei hol.

A'R ARGLWYDD a ddywedodd wrth Abram, Dos allan o'th wlad, ac oddi wrth dy genedl, ac o dŷ dy dad, i'r wlad a ddangoswyf i ti.

2 A mi a'th wnaf yn genhedlaeth fawr, ac a'th fendithiaf, mawrygaf hefyd dy enw; a thi a fyddi yn fendith.