PENNOD XX.
Abraham yn ymdaith yn Gerar, 2 yn gwadu ei wraig, ac yn ei cholli hi. 3 Ceryddu Abimelech mewn breuddwyd o'i hachos hi. 9 Yntau yn ceryddu Abraham, 14 yn rhoddi Sarah yn ei hol, 16 ac yn ei cheryddu hi, 17 ac yn cael ei iachâu trwy weddi Abraham.
AC Abraham a aeth oddi yno i dir y deau, ac a gyfanheddodd rhwng Cades a Sur, ac a ymdeithiodd yn Gerar.
2 A dywedodd Abraham am Sara ei wraig, Fy chwaer yw hi: ac Abimelech brenhin Gerar a anfonodd, ac a gymmerth Sara.
3 Yna y daeth DUW at Abimelech, noswaith, mewn breuddwyd, ac a ddywedodd wrtho, Wele, dyn marw wyt ti am y wraig a gymmeraist, a hithau yn berchen gwr.
4 Ond Abimelech ni nesasai atti hi: ac efe a ddywedodd, ARGLWYDD, a leddi di genedl gyfiawn hefyd?
5 Oni ddywedodd efe wrthyf fi, Fy chwaer yw hi? a hithau hefyd ei hun a ddywedodd, Fy mrawd yw efe: ym mherffeithrwydd fy nghalon, ac y'nglendid fy nwylaw, y gwneuthum hyn.
6 Yna y dywedodd DUW wrtho ef mewn breuddwyd, Minnau a wn mai ym mherffeithrwydd dy galon y gwnaethost hyn; a mi a'th atteliais rhag pechu i'm herbyn: am hynny ni adewais i ti gyffwrdd â hi.
7 Yn awr gan hynny, dod y wraig drachefn i'r gwr; oherwydd prophwyd yw efe, ac efe a weddïa trosot, a byddi fyw: ond oni roddi hi drachefn, gwybydd y byddi farw yn ddïau, ti a'r rhai oll ydynt eiddot ti.
8 Yna y cododd Abimelech yn fore, ac a alwodd am ei holl weision, ac a draethodd yr holl bethau hyn wrthynt hwy: a'r gwŷr a ofnasant yn ddirfawr.
9 Galwodd Abimelech hefyd am Abraham, a dywedodd wrtho, Beth a wnaethost i ni? a pheth a bechais i'th erbyn, pan ddygit bechod mor fawr arnaf fi, ac ar fy nheyrnas? gwnaethost â mi weithredoedd ni ddylesid eu gwneuthur.
10 Abimelech hefyd a ddywedodd wrth Abraham, Beth a welaist, pan wnaethost y peth hyn?
11 A dywedodd Abraham, Am ddywedyd o honof fi. Yn ddïau nid oes ofn DUW yn y lle hwn: a hwy a'm lladdant i o achos fy ngwraig.
12 A hefyd yn wir fy chwaer yw hi: merch fy nhad yw hi, ond nid merch fy mam; ac y mae hi yn wraig i mi.
13 Ond pan barodd DUW i mi grwydro o dŷ fy nhad, yna y dywedais wrthi hi, Dyma dy garedigrwydd yr hwn a wnei â mi ym mhob lle y delom iddo; dywed am danaf fi, Fy mrawd yw efe.
14 Yna y cymmerodd Abimelech ddefaid, a gwartheg, a gweision, a morwynion, ac a'u rhoddes i Abraham: rhoddes hefyd iddo ef Sarah ei wraig drachefn.
15 A dywedodd Abimelech, Wele fy ngwlad ger dy fron di, trig lle y byddo da yn dy olwg.
16 Ac wrth Sarah y dywedodd, Wele, rhoddais i'th frawd fil o ddarnau arian: wele ef yn orchudd llygaid i ti, i'r rhai oll sydd gyd â thi, a chyd â phawb eraill: fel hyn y ceryddwyd hi.
17 ¶ Yna Abraham a weddïodd ar DDUW: a DUW a iachaodd Abimelech, a'i wraig, a'i forwynion; a hwy a blantasant.
18 O herwydd yr ARGLWYDD gan gau a gauasai ar bob croth yn nhŷ Abimelech, o achos Sarah gwraig Abraham.
PENNOD XXI.
Genedigaeth Isaac, 4 a'i enwaediad. 6 Llawenydd Sarah. 9 Bwrw Agar ac Ismael allan. 15 Agar mewn cyfyngdra. 17 Yr angel yn ei chysuro hi. 22 Cynghrair rhwng Abimelech ac Abraham yn Beer-seba.
A'R ARGLWYDD a ymwelodd â Sarah fel y dywedasai, a gwnaeth yr ARGLWYDD i Sarah fel y llefarasai.
2 O herwydd Sarah a feichiogodd, ac a ymddûg i Abraham fab yn ei henaint, ar yr amser nodedig y dywedasai DUW wrtho ef.
3 Ac Abraham a alwodd enw ei fab a anesid iddo, (yr hwn a ymddygasai Sarah iddo ef) Isaac.
4 Ac Abraham a enwaedodd ar Isaac ei fab, yn wyth niwrnod oed; fel y gorchmynasai DUW iddo ef.
5 Ac Abraham oedd fab can mlwydd, pan anwyd iddo ef Isaac ei fab.
6 ¶ A Sarah a ddywedodd, Gwnaeth DUW i mi chwerthin; pob un a glywo a chwardd gyd â mi.
7 Hi a ddywedodd hefyd, Pwy a ddywedasai i Abraham y rhoisai Sarah sugn i blant? canys mi a esgorais ar fab yn ei henaint ef.
8 A'r bachgen a gynnyddodd, ac a ddiddyfnwyd: ac Abraham a wnaeth wledd fawr ar y dydd y diddyfnwyd Isaac.
9 ¶ A Sarah a welodd fab Agar yr Aiphtes, yr hwn a ddygasai hi i Abraham, yn gwatwar.
10 A hi a ddywedodd wrth Abraham, Bwrw allan y gaeth-forwyn hon a'i mab; o herwydd ni chaiff mab y gaethes hon gyd-etifeddu â'm mab i Isaac.
11 A'r peth hyn fu ddrwg iawn y'ngolwg Abraham, er mwyn ei fab.
12 ¶ A DUW a ddywedodd wrth Abraham, Na fydded drwg yn dy olwg am y llangc, nac am dy gaeth-forwyn; yr hyn oll a ddywedodd Sarah wrthyt, gwrando ar ei llais: o herwydd yn Isaac y gelwir i ti had.
13 Ac am fab y forwyn gaeth hefyd, mi a'i gwnaf ef yn genhedlaeth, o herwydd dy had di ydyw ef.
14 Yna y cododd Abraham yn fore, ac a gymmerodd fara, a chostrel o ddwfr, ac a'i rhoddes at Agar, (gan osod ar ei hysgwydd hi hynny,) a'r bachgen hefyd, ac efe a'i gollyngodd hi ymaith: a hi a aeth, ac a grwydrodd yn anialwch Beer-seba.
15 A darfu y dwfr yn y gostrel; a hi a fwriodd y bachgen dan un o'r gwŷdd.
16 A hi a aeth, ac a eisteddodd ei hunan ym mhell ar ei gyfer, megis ergyd bwa: canys dywedasai, Ni allaf fi edrych ar y bachgen yn marw. Felly hi a eisteddodd ar ei gyfer, ac a ddyrchafodd ei llef, ac a wylodd.
17 A DUW a wrandawodd ar lais y llangc; ac angel DUW a alwodd ar Agar o'r nefoedd, ac a ddywedodd wrthi, Beth a ddarfu i ti, Agar? nac ofna, oherwydd DUW a wrandawodd ar lais y llangc lle y mae efe.
18 Cyfod, cymmer y llangc, ac ymafael ynddo â'th law, oblegid myfi a'i gwnaf ef yn genhedlaeth fawr.
19 A DUW a agorodd ei llygaid hi, a hi a ganfu bydew dwfr; a hi a aeth, ac a lanwodd y gostrel o'r dwfr, ac a ddïododd y llangc.
20 Ac yr oedd Duw gyd â'r llangc; ac efe a gynyddodd, ac a drigodd yn yr anialwch, ac a aeth yn berchen bwa.
21 Ac yn anialwch Paran y trigodd efe;