os gwnei i mi y peth hyn, bugeiliaf a chadwaf dy braidd di drachefn.
32 Tramwyaf trwy dy holl braidd di heddyw, gan neillduo oddi yno bob llwdn mân-frith a mawr-frith, a phob llwdn coch-ddu ym mhlith y defaid; y mawr-frith hefyd a'r mân-frith ym mhlith y geifr: ac o'r rhai hynny y bydd fy nghyflog.
33 A'm cyfiawnder a dystiolaetha gyd â mi o hyn allan, pan ddêl hynny yn gyflog i mi o flaen dy wyneb di: yr hyn oll ni byddo fân-frith neu fawr-frith ym mhlith y geifr, neu goch-ddu ym mhlith y defaid, lladrad a fydd hwnnw gyd â myfi.
34 A dywedodd Laban, Wele, O na byddai yn ol dy air di!
35 Ac yn y dydd hwnnw y neillduodd efe y bychod cylch-frithion a mawr-frithion, a'r holl eifr mân-frithion a mawr-frithion, yr hyn oll yr oedd peth gwỳn arno, a phob coch-ddu ym mhlith y defaid, ac a'u rhoddes dan law ei feibion ei hun.
36 Ac a osododd daith tri niwrnod rhyngddo ei hun a Jacob: a Jacob a borthodd y rhan arall o braidd Laban.
37 ¶ A Jacob a gymmerth iddo wïail gleision o boplys, a chyll, a ffawydd; ac a ddirisglodd ynddynt ddirisgliadau gwỳnion, gan ddatguddio y gwỳn yr hwn ydoedd yn y gwïail.
38 Ac efe a osododd y gwïail y rhai a ddirisglasai efe, yn y cwtterydd, o fewn y cafnau dyfroedd, lle y deuai y praidd i yfed, ar gyfer y praidd: fel y cyfebrent pan ddelent hwy i yfed.
39 A'r praidd a gyfebrasant wrth y gwïail; a'r praidd a ddug rai cylch-frithion, a mân-frithion, a mawr-frithion.
40 A Jacob a ddidolodd yr ŵyn, ac a osododd wynebau y praidd tu ag at y cylch-frithion, ac at bob coch-ddu ym mhlith praidd Laban; ac a osododd ddïadellau iddo ei hun o'r neilldu, ac nid gyd â phraidd Laban y gosododd hwynt.
41 A phob amser y cyfebrai y defaid cryfaf, Jacob a osodai y gwïail o flaen y praidd yn y cwtterydd, i gael o honynt gyfebru wrth y gwïail;
42 Ond pan fyddai y praidd yn weiniaid, ni osodai efe ddim: felly y gwannaf oedd eiddo Laban, a'r cryfaf eiddo Jacob.
43 A'r gwr a gynnyddodd yn dra rhagorol; ac yr ydoedd iddo ef braidd helaeth, a morwynion, a gweision, a chamelod, ac asynod.
Pennod XXXI.
Jacob ar sorriant yn ymadael yn ddirgel. 19 Rahel yn lladratta delwau ei thad. 22 Laban yn canlyn ar ei ol ef, 26 ac yn achwyn rhag y cam. 34 Dyfais Rahel i guddio y delwau. 36 Jacob yn achwyn o herwydd Laban. 43 Y cyfammod rhwng Laban a Jacob yn Galeed.
1}} Ac efe a glybu eiriau meibion Laban yn dywedyd, Jacob a ddug yr hyn oll oedd i'n tad ni, ac o'r hyn ydoedd i'n tad ni y cafodd efe yr holl anrhydedd hyn.
2 Hefyd Jacob a welodd wynebpryd Laban, ac wele, nid ydoedd tu ag atto ef megis cynt.
3 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Jacob, Dychwel i wlad dy dadau, ac at dy genedl; a mi a fyddaf gyd â thi.
4 A Jacob a anfonodd, ac a alwodd Rahel a Leah i'r maes, at ei braidd,
5 Ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a welaf wynebpryd eich tad chwi, nad yw fel cynt tu ag attaf fi: a Duw fy nhad a fu gyd â myfi.
6 A chwi a wyddoch mai â'm holl allu y gwasanaethais eich tad.
7 A'ch tad a'm twyllodd i, ac a newidiodd fy nghyflog i ddengwaith: ond nis dïoddefodd Duw iddo wneuthur i mi ddrwg.
8 Os fel hyn y dywedai; Y mân-frithion a fydd dy gyflog di, yna yr holl braidd a eppilient fân-frithion: ond os fel hyn y dywedai; Y cylch-frithion a fydd dy gyflog di, yna yr holl braidd a eppilient rai cylch-frithion.
9 Felly Duw a ddug anifeiliaid eich tad chwi, ac a'u rhoddes i mi.
10 Bu hefyd yn amser cyfebru o'r praidd, ddyrchafu o honof fy llygaid, ac mewn breuddwyd y gwelais, ac wele yr hyrddod, (y rhai oedd yn llammu y praidd,) yn glych-frithion, yn fân-frithion, ac yn fawr-frithion.
11 Ac angel Duw a ddywedodd wrthyf mewn breuddwyd, Jacob. Minnau a attebais, Wele fi.
12 Yntau a ddywedodd, Dyrchafa weithian dy lygaid, a gwel yr holl hyrddod y rhai ydynt yn llamu y praidd yn gylch-frithion, yn fân-frithion, ac yn fawr-frithion; oblegid gwelais yr hyn oll y mae Laban yn ei wneuthur i ti.
13 Myfi yw Duw Bethel, lle yr enneiniaist y golofn, a lle yr addunaist adduned i mi: cyfod bellach, dos allan o'r wlad hon, dychwel i wlad dy genedl dy hun.
14 A Rahel a Lea a attebasant, ac a ddywedasant wrtho, A oes etto i ni ran, neu etifeddiaeth yn nhŷ ein tad?
15 Onid yn estronesau y cyfrifodd efe nyni? oblegid efe a'n gwerthodd; a chan dreulio a dreuliodd hefyd ein harian ni.
16 Canys yr holl olud yr hwn a ddug Duw oddi ar ein tad ni, nyni a'n plant a'i pïau: ac yr awr hon yr hyn oll a ddywedodd Duw wrthyt, gwna.
17 ¶ Yna Jacob a gyfododd, ac a osododd ei feibion a'i wragedd ar gamelod;
18 Ac a ddug ymaith ei holl anifeiliaid, a'i holl gyfoeth yr hwn a ennillasai, sef ei anifeiliaid meddiannol, y rhai a ennillasai efe ym Mesopotamia, i fyned at Isaac ei dad, i wlad Canaan.
19 Laban hefyd a aethai i gneifio ei ddefaid: a Rahel a ladrattasai y delwau oedd gan ei thad hi.
20 A Jacob a aeth ymaith yn lladradaidd, heb wybod i Laban y Syriad: canys ni fynegodd iddo mai ffoi yr oedd.
21 Felly y ffodd efe â'r hyn oll oedd ganddo, ac a gyfododd ac a aeth dros yr afon, ac a gyfeiriodd at fynydd Gilead.
22 A mynegwyd i Laban, ar y trydydd dydd, ffoi o Jacob.
23 Ac efe a gymmerth ei frodyr gyd âg ef, ac a erlidiodd ar ei ol ef daith saith niwrnod; ac a'i goddiweddodd ef ym mynydd Gilead.
24 A Duw a ddaeth at Laban y Syriad, liw nos, mewn breuddwyd, ac a ddywedodd wrtho, Cadw arnat rhag yngan o honot wrth Jacob na da na drwg.
25 ¶ Yna Laban a oddiweddodd Jacob: a Jacob a osododd ei babell yn y mynydd; Laban hefyd a wersyllodd ynghyd â'i frodyr ym mynydd Gilead.
26 A Laban a ddywedodd wrth Jacob, Pa beth a wnaethost? oblegid ti a aethost yn lladradaidd oddi wrthyf fi, ac a ddygaist fy merched fel caethion cleddyf.
27 Am ba beth y ffoaist yn ddirgel, ac y lladratteaist oddi wrthyf fi, ac ni fynegaist i mi, fel yr hebryngaswn dydi â llawenydd, ac â chaniadau, â thympan, ac â thelyn?