dygodd hwynt atto ef: yntau a'u cusanodd hwynt, ac a'u cofleidiodd.
11 Dywedodd Israel hefyd wrth Joseph, Ni feddyliais weled dy wyneb; etto, wele parodd DUW i mi weled dy had hefyd.
12 A Joseph a'u tynnodd hwynt allan wrth ei liniau ef, ac a ymgrymmodd i lawr ar ei wyneb.
13 Cymmerodd Joseph hefyd hwynt ill dau, Ephraim yn ei law ddehau tu a llaw aswy Israel, a Manasseh yn ei law aswy tu a llaw ddehau Israel; ac a'u nesaodd hwynt atto ef.
14 Ac Israel a estynodd ei law ddehau, ac a'i gosododd ar ben Ephraim, (a hwn oed yr ieuangaf,) a'i law aswy ar ben Manasseh: gan gyfarwyddo ei ddwylo trwy wybod; canys Manasseh oedd y cynfab.
15 ¶ Ac efe a fendithiodd Joseph, ac a ddywedodd, DUW, yr hwn y rhodiodd fy nhadau Abraham ac Isaac ger ei fron, DUW, yr hwn a'm porthodd er pan ydwyf, hyd y dydd hwn,
16 Yr angel yr hwn a'm gwaredodd oddi wrth bob drwg, a fendithio'r llangciau; fy enw hefyd, ac enw fy nhadau Abraham ac Isaac, a alwer arnynt: heigiant hefyd yn llïaws y'nghanol y wlad.
17 Pan welodd Joseph osod o'i dad ei law ddehau ar ben Ephraim, bu anfoddlawn ganddo: ac efe a ddaliodd law ei dad, i'w symmud hi oddi ar ben Ephraim, ar ben Manasseh.
18 Dywedodd Joseph hefyd wrth ei dad, Nid felly, fy nhad: canys dyma'r cynfab, gosod dy law ddehau ar ei ben ef.
19 A'i dad a ommeddodd, ac a ddywedodd, Mi a wn, fy mab, mi a wn: bydd hwn hefyd yn bobl, a mawr fydd hwn hefyd, ond yn wir ei frawd ieuangaf fydd mwy nag ef, a'i had ef fydd yn llïaws o genhedloedd.
20 Ac efe a'u bendithiodd hwynt yn y dydd hwnnw, gan ddywedyd, Ynot ti y bendithia Israel, gan ddywedyd, Gwnaed DUW di fel Ephraim, ac fel Manasseh. Ac efe a osododd Ephraim o flaen Manasseh.
21 Dywedodd Israel hefyd wrth Joseph, Wele fi yn marw, a bydd Duw gyd â chwi, ac efe a'ch dychwel chwi i dir eich tadau.
22 A mi a roddais i ti un rhan
PENNOD XLIX.
Jacob yn galw ei feibion i'w bendithio. 3 Bendith pob un o honynt. 29 Mae efe yn rhoddi siars arnynt ynghylch ei gladdedigaeth; 33 ac yn marw.
YNA y galwodd Jacob ar ei feibion, ac a ddywedodd, Ymgesglwch, fel y mynegwyf i chwi yr hyn a ddigwydda i chwi yn y dyddiau diweddaf.
2 Ymgesglwch, a chlywch, meibion Jacob; ïe, gwrandêwch ar Israel eich tad.
3 ¶ Reuben fy nghynfab, tydi oedd fy ngrym, a dechreuad fy nerth, rhagoriaeth braint, a rhagoriaeth cryfder.
4 Ansafadwy oeddit fel dwfr: ni ragori di; canys dringaist wely dy dad; yna yr halogaist ef: fy ngwely a ddringodd.
5 ¶ Simeon a Lefi sydd frodyr; offer creulondeb sydd yn eu hanheddau.
6 Na ddeled fy enaid i'w cyfrinach hwynt: fy ngogoniant, na fydd un â'u cynnulleidfa hwynt: canys yn eu dig y lladdasant wr, ac o'u gwirfodd y diwreiddiasant gaer.
7 Melltigedig fyddo eu dig, canys tost oedd; a'u llid, canys creulawn fu: rhannaf hwynt yn Jacob, a gwasgaraf hwynt yn Israel.
8 ¶ Tithau, Judah, dy frodyr a'th glodforant di: dy law fydd yng ngwar dy elynion; meibion dy dad a ymgrymmant i ti.
9 Cenau llew wyt ti, Judah; o'r ysglyfaeth y daethost i fynu, fy mab: ymgrymmodd, gorweddodd fel llew, ac fel hen lew: pwy a'i cyfyd ef?
10 Nid ymedy y deyrn-wïalen o Judah, na deddfwr oddi rhwng ei draed ef, hyd oni ddêl Seilo; ac atto ef y bydd cynhulliad pobloedd.
11 Yn rhwymo ei ebol wrth y winwydden, a llwdn ei asyn wrth y bêr winwydden: golchodd ei wisg mewn gwin, a'i ddillad y'ngwaed y grawnwin.
12 Coch fydd ei lygaid gan win, a gwỳn fydd ei ddannedd gan laeth.
13 ¶ Zabulon a breswylia ym mhorthleoedd y môr; ac efe a fydd yn borthladd llongau, a'i derfyn fydd hyd Sidon.
14 ¶ Issachar sydd asyn asgyrnog, yn gorwedd rhwng dau bwn.
15 Ac a wêl lonyddwch mai da yw, a'r tir mai hyfryd: efe a ogwydda ei ysgwydd i ddwyn, ac a fydd yn gaeth dan deyrnged.
16 ¶ Dan a farn ei bobl fel un o lwythau Israel.
17 Dan fydd sarph ar y ffordd, a neidr ar y llwybr; yn brathu sodlau y march, fel y syrthio ei farchog yn ôl.
18 Am dy iachawdwriaeth di y disgwyliais, ARGLWYDD.
19 ¶ Gad, llu a'i gorfydd; ac yntau a orfydd o'r diwedd.
20 ¶ O Aser bras fydd ei fwyd ef, ac efe a rydd ddanteithion brenhinol.
21 ¶ Naphtali fydd ewig wedi ei gollwng, yn rhoddi geiriau teg.
22 ¶ Joseph fydd gangen ffrwythlawn, cangen ffrwythlawn wrth ffynnon, ceingciau yn cerdded ar hyd mur.
23 A'r saethyddion fuant chwerw wrtho ef, ac a saethasant, ac a'i casasant ef.
24 Er hynny arhôdd ei fwa ef yn gryf, a breichiau ei ddwylaw a gryfhasant, trwy ddwylaw grymmus DDUW Jacob: oddi yno y mae y bugail, maen Israel:
25 Trwy DDUW dy dad, yr hwn a'th gynnorthwya, a'r Hollalluog, yr hwn a'th fendithia â bendithion y nefoedd oddi uchod, â bendithion y dyfnder yn gorwedd isod, â bendithion y bronnau a'r groth.
26 Rhagorodd bendithion dy dad ar fendithion fy rhïeni, hyd derfyn bryniau tragwyddoldeb: byddant ar ben Joseph, ac ar goryn yr hwn a neillduwyd oddi wrth ei frodyr.
27 ¶ Benjamin a ysglyfaetha fel blaidd: y bore y bwytty'r ysglyfaeth, a'r hwyr y rhan yr ysbail.
28 ¶ Dyma ddeuddeg llwyth Israel oll, a dyma yr hyn a lefarodd eu tad wrthynt, ac y bendithiodd efe hwynt: pob un yn ol ei fendith y bendithiodd efe hwynt.
29 Yna y gorchmynnodd efe iddynt, ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a gesglir at fy mhobl: cleddwch fi gyd â'm tadau, yn yr ogof sydd ym maes Ephron yr Hethiad;
30 Yn yr ogof sydd ym maes Machpelah, yr hon sydd o flaen Mamre, y'ngwlad Canaan, yr hon a brynodd Abraham gyd â'r maes gan Ephron yr Hethiad, yn feddiant beddrod.