Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

11 Felly o du'r gogledd ar hŷd, y bydd llenni o gàn cufydd o hŷd, a'u hugain colofn, a'u hugain mortais, o bres; a phennau'r colofnau, a'u cylchau, o arian.

12 ¶ Ac i led y cynteddfa, o du y gorllewin, y bydd llenni o ddeg cufydd a deugain: eu colofnau fyddant ddeg, a'u morteisiau yn ddeg.

13 A lled y cynteddfa, tu a'r dwyrain, o godiad haul, a fydd ddeg cufydd a deugain.

14 Y llenni o'r naill du a fyddant bymtheg cufydd; eu colofnau yn dair, a'u morteisiau yn dair.

15 Ac i'r ail du y bydd pymtheg llen; eu tair colofn, a'u tair mortais.

16 ¶ Ac i borth y cynteddfa y gwneir caeadlen o ugain cufydd, o sidan glas, porphor, ac ysgarlad, ac o lïan main cyfrodedd o wnïadwaith; eu pedair colofn, a'u pedair mortais.

17 Holl golofnau y cynteddfa o amgylch a gylchir âg arian; a'u pennau yn arian, a'u morteisiau yn bres.

18 ¶ Hŷd y cynteddfa fydd gàn cufydd, a'i led yn ddeg a deugain o bob tu; a phùm cufydd o uchder o lïan main cyfrodedd, a'u morteisiau o bres.

19 Holl lestri y tabernacl yn eu holl wasanaeth, a'i holl hoelion hefyd, a holl hoelion y cynteddfa, fyddant o bres.

20 ¶ A gorchymyn dithau i feibion Israel ddwyn o honynt attat bur olew yr olewydden coethedig, yn oleuni, i beri i'r lamp losgi yn wastad.

21 Ym mhabell y cyfarfod, o'r tu allan i r wahanlen, yr hon fydd o flaen y dystiolaeth, y trefna Aaron a'i feibion hwnnw, o'r hwyr hyd y bore, ger bron yr ARGLWYDD: deddf dragywyddol fydd, trwy eu hoesoedd, gan feibion Israel.


PENNOD XXVIII.

Neillduo Aaron a'i feibion i swydd yr offeiriaid. 2 Gorchymyn gwisgoedd sanctaidd. 6 Yr ephod. 15 Y ddwyfronneg a'r deuddeg maen gwerthfawr. 30Yr Urim a'r Thummim. 31 Mantell yr ephod, gyd â'i phomgranadau a'i chlych. 36 Dalen y meitr. 39 Y bais wnïadwaith. 40Gwisgoedd meibion Aaron.

A chymmer Aaron dy frawd attat, a'i feibion gyd âg ef, o blith meibion Israel, i offeiriadu i mi; sef Aaron, Nadab ac Abihu, Eleazar ac Ithamar, meibion Aaron.

2 Gwna hefyd wisgoedd sanctaidd i Aaron dy frawd, er gogoniant a harddwch.

3 A dywed wrth yr holl rai doeth o galon, y rhai a lenwais i âg ysbryd doethineb, am wneuthur o honynt ddillad Aaron i'w sancteiddio ef, i offeiriadu i mi.

4 A dyma y gwisgoedd a wnant. Dwyfronneg, ac ephod, mantell hefyd, a phais o waith edau a nodwydd, meitr, a gwregys: felly y gwnant wisgoedd sanctaidd i Aaron dy frawd, ac i'w feibion, i offeiriadu i mi.

5 Cymmerant gan hynny aur, a sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main.

6 ¶ A gwnant yr ephod o aur, sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main cyfrodedd, o waith cywraint.

7 Dwy ysgwydd fydd iddi wedi eu cydio wrth ei dau gwrr; ac felly y cydir hi ynghyd.

8 A gwregys cywraint ei ephod ef yr hwn fydd arni, fydd o'r un, yn un-waith â hi; o aur, sidan glas, a phorphor, ysgarlad hefyd, a llïan main cyfrodedd.

9 Cymmer hefyd ddau faen onix, a nâdd ynddynt enwau meibion Israel:

10 Chwech o'u henwau ar un maen, a'r chwe henw arall ar yr ail maen, yn ol eu genedigaeth.

11 A gwaith naddwr mewn maen, fel naddiadau sêl, y neddi di y ddau faen, âg enwau meibion Israel: gwna hwynt â boglynau o aur o'u hamgylch.

12 A gosod y ddau faen ar ysgwyddau yr ephod, yn feini coffadwriaeth i feibion Israel. Ac Aaron a ddwg eu henwau hwynt ger bron yr ARGLWYDD ar ei ddwy ysgwydd, yn goffadwriaeth.

13 ¶ Gwna hefyd foglynau aur;

14 A dwy gadwyn o aur coeth yn eu pennau: o blethwaith y gwnei hwynt; a dod y cadwynau plethedig y'nglŷn wrth y boglynau.

15 ¶ Gwna hefyd ddwyfronneg barnedigaeth, o waith cywraint; ar waith yr ephod y gwnei hi: o aur, sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main cyfrodedd, y gwnei hi.

16 Pedeirongl fydd hi yn ddau ddyblyg; yn rhychwant ei hŷd, ac yn rhychwant ei lled.

17 Llanw hi yn llawn o feini, sef pedair rhes o feini: un rhes fydd sardius, a thophaz, a smaragdus: hyn fydd y rhes gyntaf.

18 A'r ail res fydd carbuncl, saphir, ac adamant.

19 A'r drydedd res fydd lygur, ac acat, ac amethyst.

20 Y bedwaredd res fydd beryl, ac onix, a jasbis: byddant wedi eu gosod mewn aur yn eu lleoedd.

21 A'r meini fyddant âg enwau meibion Israel, yn ddeuddeg, yn ol eu henwau hwynt; o naddiad sêl, bob un wrth ei enw y byddant, yn ol y deuddeg llwyth.

22 ¶ A gwna ar y ddwyfronneg gadwynau ar y cyrrau, yn blethwaith, o aur coeth.

23 Gwna hefyd ar y ddwyfronneg ddwy fodrwy o aur, a dod y ddwy fodrwy wrth ddau gwrr y ddwyfronneg.

24 A dod y ddwy gadwyn blethedig o aur trwy y ddwy fodrwy ar gyrrau y ddwyfronneg.

25 A'r ddau ben arall i'r ddwy gadwyn blethedig dod y'nglŷn wrth y ddau foglyn, a dod ar ysgwyddau yr ephod o'r tu blaen.

26 ¶ Gwna hefyd ddwy fodrwy o aur, a gosod hwynt ar ddau ben y ddwyfronneg, ar yr ymyl sydd ar ystlys yr ephod o'r tu mewn.

27 A gwna ddwy fodrwy o aur, a dod hwynt ar ddau ystlys yr ephod oddi tanodd, tu a'i thu blaen, ar gyfer ei chydiad, oddi ar wregys yr ephod.

28 A'r ddwyfronneg a rwymant â'u modrwyau wrth fodrwyau yr ephod â llinyn o sidan glas, fel y byddo oddi ar wregys yr ephod, fel na ddattoder y ddwyfronneg oddi wrth yr ephod.

29 A dyged Aaron, yn nwyfronneg y farnedigaeth, enwau meibion Israel ar ei galon, pan ddelo i'r cyssegr, yn goffadwriaeth ger bron yr ARGLWYDD yn wastadol.

30 ¶ A dod ar ddwyfronneg y farnedigaeth, yr Urim a'r Thummim; a byddant ar galon Aaron pan elo i mewn ger bron yr ARGLWYDD: ac Aaron a ddwg farnedigaeth meibion Israel ar ei galon, ger bron yr ARGLWYDD, yn wastadol.

31 ¶ Gwna hefyd fantell yr ephod oll o sidan glas.

32 A bydd twll yn ei phen uchaf hi, ar ei chanol: gwrym o waith gwehydd o amgylch y twll, megis twll llurig, fydd iddi, rhag rhwygo.

33 ¶ A gwna ar ei godrau hi bomgranadau