Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwrdd, a'r bara yr hwn fydd yn y cawell, wrth ddrws pabell y cyfarfod.

33 A hwy a fwyttânt y pethau hyn y gwnaed y cymmod â hwynt, i'w cyssegru hwynt ac i'w sancteiddio: ond y dïeithr ni chaiff eu bwytta; canys cyssegredig ydynt.

34 Ac os gweddillir o gig y cyssegriad, neu o'r bara, hyd y bore, yna ti a losgi'r gweddill â thân: ni cheir ei fwytta, oblegid cyssegredig yw.

35 A gwna fel hyn i Aaron, ac i'w feibion, yn ol yr hyn oll a orchymynais i ti: saith niwrnod y cyssegri hwynt.

36 A phob dydd yr aberthi fustach yn aberth dros bechod, er cymmod: a glanhâ yr allor, wedi i ti wneuthur cymmod drosti, ac enneinia hi, i'w chyssegru.

37 Saith niwrnod y gwnei gymmod dros yr allor, ac y sancteiddi hi: felly yr allor fydd sanctaidd: pob peth a gyffyrddo â'r allor, a sancteiddir.

38 ¶ A dyma yr hyn a offrymmi ar yr allor. Dau oen blwyddiaid, bob dydd yn wastadol.

39 Yr oen cyntaf a offrymmi di y bore; a'r ail pen a offrymmi di yn y cyfnos.

40 A chyd â'r naill oen ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymmysgu a phedwaredd ran hìn o olew coethedig; a phedwaredd ran hìn o win, yn ddïod-offrwm,

41 A'r oen arall a offrymmi di yn y cyfnos, ac a wnei iddo yr un modd ag i fwyd-offrwm y bore, ac i'w ddïod-offrwm, i fod yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i'r ARGLWYDD:

42 Yn boeth-offrwm gwastadol trwy eich oesoedd, wrth ddrws pabell y cyfarfod, ger bron yr ARGLWYDD; lle y cyfarfyddaf â chwi, i lefaru wrthyt yno.

43 Ac yn y lle hwnnw y cyfarfyddaf â meibion Israel; ac efe a sancteiddir trwy fy ngogoniant.

44 A mi a sancteiddiaf babell y cyfarfod a'r allor; ac Aaron a'i feibion a sancteiddiaf, i offeiriadu i mi.

45 ¶ A mi a breswyliaf ym mysg meibion Israel, ac a fyddaf yn DDUW iddynt.

46 A hwy a gânt wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD eu DUW, yr hwn a'u dygais hwynt allan o dir yr Aipht, fel y trigwn yi eu plith hwynt; myfi yw yr ARGLWYDD eu DUW.


PENNOD XXX.

Allor yr arogl-darth. 11 Yr iawn dros bob enaid. 17 Y golch-lestr pres. 22 Yr olew sanctaidd i enneinio. 34 Defnydd yr arolg-darth.

GWNA hefyd allor i arogl-darthu arogl-darth: o goed Sittim y gwnei di hi.

2 Yn gufydd ei hŷd, ac yn gufydd ei lled, (pedeirongl fydd hi,) ac yn ddau gufydd ei huchder: ei chyrn fyddant o'r un.

3 A gwisg hi âg aur coeth, ei chefn a'i hystlysau o amgylch, a'i chyrn: a gwna hefyd iddi goron o aur o amgylch.

4 A gwna iddi ddwy fodrwy aur oddi tan ei choron, wrth ei dwy gongl: ar ei dau ystlys y gwnei hwynt; fel y byddant i wisgo am drosolion, i'w dwyn hi arnynt.

5 A'r trosolion a wnei di o goed Sittim: a gwisg hwynt âg aur.

6 A gosod hi o flaen y wahanlen sydd wrth arch y dystiolaeth; o flaen y drugareddfa sydd ar y dystiolaeth, lle y cyfarfyddaf â thi.

7 Ac arogl-darthed Aaron arni arogl-darth llysieuog bob bore: pan daclo efe lampau, yr arogl-dartha efe.

8 A phan oleuo Aaron y lampau yn y cyfnos, arogl-darthed arni arogl-darth gwastadol ger bron yr ARGLWYDD, trwy eich cenhedlaethau.

9 Nac offrymmwch arni arogl-darth dïeithr, na phoeth-offrwm, na bwyd-offrwm; ac na thywelltwch ddïod-offrwm arni.

10 A gwnaed Aaron gymmod ar ei chyrn hi unwaith yn y flwyddyn, â gwaed pech-aberth y cymmod: unwaith yn y flwyddyn y gwna efe gymmod arni trwy eich cenhedlaethau; sancteiddiolaf i'r ARGLWYDD yw hi.

11 ¶ A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

12 Pan rifech feibion Israel, dan eu rhifedi; yna rhoddant bob un iawn am ei einioes i'r ARGLWYDD, pan rifer hwynt: fel na byddo pla yn eu plith, pan rifer hwynt.

13 Hyn a ddyry pob un a elo dan rif. Hanner sicl, yn ol sicl y cyssegr: ugain gerah yw y sicl: hanner sicl fydd yn offrwm i'r ARGLWYDD.

14 Pob un a elo dan rif, o fab ugeinmlwydd ac uchod, a rydd offrwm i'r ARGLWYDD.

15 Ni rydd y cyfoethog fwy, ac ni rydd y tlawd lai, na hanner sicl, wrth roddi offrwm i'r ARGLWYDD, i wneuthur cymmod dros eich eneidiau.

16 A chymmer yr arian cymmod gan feibion Israel, a dod hwynt i wasanaeth pabell y cyfarfod; fel y byddant yn goffadwriaeth i feibion Israel ger bron yr ARGLWYDD, i wneuthur cymmod dros eich eneidiau.

17 ¶ A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

18 Gwna noe bres, a'i throed o bres, i ymolchi: a dod hi rhwng pabell y cyfarfod a'r allor: a dod ynddi ddwfr.

19 A golched Aaron a'i feibion o honi eu dwylaw a'u traed.

20 Pan ddelont i babell y cyfarfod, ymolchant â dwfr, fel na byddont feirw; neu pan ddelont wrth yr allor i weini, gan arogl-darthu aberth tanllyd i'r ARGLWYDD.

21 Golchant eu dwylaw a'u traed, fel na byddont feirw: a bydded hyn iddynt yn ddeddf dragwyddol, iddo ef, ac i'w had, trwy eu cenhedlaethau.

22 ¶ Yr ARGLWYDD hefyd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

23 Cymmer i ti ddewis lysiau, o'r myrr pur, bwys pùm càn sicl, a hanner hynny o'r sinamon peraidd, sef pwys deucant a deg a deugain o siclau, ac o'r calamus peraidd pwys deucant a deg a deugain o siclau;

24 Ac o'r casia pwys pùm cant o siclau, yn ol sicl y cyssegr; a hin o olew olew-wydden.

25 A gwna ef yn olew enneiniad sanctaidd, yn ennaint cymmysgadwy o waith yr apothecari: olew enneiniad sanctaidd fydd efe.

26 Ac enneinia âg ef babell y cyfarfod, ac arch y dystiolaeth,

27 Y bwrdd hefyd a'i holl lestri, a'r canhwyllbren a'i holl lestri, ac allor yr arogl-darth.

28 Ac allor y poeth-offrwm a'i holl lestri, a'r noe a'i throed.

29 A chyssegra hwynt, fel y byddant yn sancteiddiolaf: pob peth a gyffyrddo â hwynt, a fydd sanctaidd.

30 Enneinia hefyd Aaron a'i feibion, a chyssegra hwynt, i offeiriadu i mi.

31 A llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Olew enneiniad sanctaidd a fydd hwn i mi, trwy eich cenhedlaethau.

32 Nac enneinier âg ef gnawd dyn, ac ar ei waith ef na wnewch ei fath: sanctaidd yw, bydded sanctaidd gennych.

33 Pwy bynnag a gymmysgo ei fath, a'r hwn a roddo o hono ef ar ddyn dïeithr, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl.