Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

TRYDYDD LLYFR MOSES,

Yft HWN A KLWIB

LEFITICUS.

PENNOD I.

1 Trefn y poeth-offrymmau, 3 o eidionau, 10

o ddefaid, neu eifr, 14 ac o adar.

A'R Arglwydd a alwodd ar Moses, ac a lefarodd wrtho o babell y cyfarfod, gan ddywedyd,

2 Llefara. wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddygo dyn o honoch offrwm i'r Arglwydd, o anifail, sf o'r eidionau, neu o'r praidd, yr ofFrymmwch eich offrwm.

3 Os poeth-offrwm o eiôoxfydd ei offrwm ef, offrymmed ef yn wrryw perffeith-gwbl ; a dygea ef o'i ewyllys eì hun i ddrws pabell y cyfarfod, ger bron yr Arglwydd.

4 A gosoded ei law ar ben y poeth-offrwm ; ac fe a'i cymmerir ef yn gymmeradwy gan- ddo, i wneuthur cymmod drosto.

5 Lladded hefyd yr eidion ger bron yr Arglwydd; a dyged meibion Aaron, yr offeiriaid, y gwaed, a thaenellant y. gwaed o amgylch ar yr allor, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.

6 A blinged y poeth-offrwm, a thorred ef yn ei ddarnau.

7 A rhodded meibion Aaron yr offeiriad dàn ar yr allor, a gosodaní goed mewn trefn ar y tân.

8 A gosoded meibion Aaron, yr offeiriaid, y darnau, y pen, a'r brasder, mewn trefn ar y coed a fyddant ar y tân sydd ar yr allor.

9 Ond ei berfedd, a'i draed, a ylch efe mewn dwfr : a'r offeiriad a lysg y cwbl ar yr allor, yn boeth-offrwm, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd.

1U % Ac os o'r praidd, sefo'r defaid, neu o'r geifr, yr offrymma efe boeth-offrwm ; offrym- med ef yu wrryw perffeith-gwbl.

11 A Üadded ef ger bron yr Arglwydd, o du y gogledd i'r allor ; a thaenelled meibion Aaron, yr offeiriaid, ei waed ef ar yr allor o amgylch.

12 A thorred ef yn ei ddarnau, gyd â'i ben a'i frasder ; a gosoded yr offeiriad nwynt ar y coed afyddant ar y tân sydd ar yr allor.

13 Ond golched y perfedd a'r traed mewn dwfr : a dyged yr offeiriad y cwbl, a llosged ar yr allor. Hwn sydd boeth-offrwm, aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd.

14 ^ Ác os poeth-offrwm o aderynf ydd ei offrwm ef i'r Arglwydd ; yna dyged ei offrwm o durturau, neu o gywion colom- mennod.

15 A dyged yr offeiriad ef at yr allor, a thorred ei ben ef, a llosged ef ar yr allor ; a gwasger ei waed ef ar ystlys yr allor.

16 A thynned ymaith ei grombil ef ynghŷd â'i blu, a bwried hwynt ger llaw yr allor, o du y dwyrain, i'r lle y byddo y lludw.

17 Hollted ef, â'i esgyll hefyd; etto na wahaned ef: a llosged yr offeinad ef ar yr allor, ar y coed a fyddant ar y tân. Dyma boeth-offrwm, aberth tanllyd, o arogl per- aidd i'r Arglwydd.

PENNOD II.

1 Y bwyd-offrwm tanllyd gyd ûg olew ac arogi- darth; 4 naill ai wedi ei bobi mewnffwrn, 5 ai awadell, 7 ai mewn padell ffrì'o ; 12 neu o , r blaen-ffnvyth yn y dywysen, 13 Halen y bwyd-offrwm.

PAN offrymmo dyn f wyd-offrwm i'r A r- glwydd, bydded ei offrwm ef o beill- iaid ; a thywallted olew arno, a rhodded thus arno.

2 A dyged ef at feibion Aaron, yr offeiriaid : a chymmered efe oddi yno lonaid ei law o'i beilhaid, ac o'i olew, ynghŷd â'i holl thus ; a llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ar yr allor, yn offrwm tanllyd o arogl peraidd i'r Arglwydd.

3 A bydded gweddill y bwyd-offrwm i Aaron ac i'w feibion : sancteiddbeth o dan- llyd offrymmau yr Arglwydd ydyw.

4 ^J Hefyd pan offrymmech fwyd-offrwm, wedi ei bobi mewn ffwrn, teisen beilliail groyw, wedi ei chymmysgu trwy olew, neu afrllad croyw wedi eu henneinio âg olew, a fydd.

5 % Ond os bwyd-offrwm ar rsiàeWfydd dy offrwm di, bydded o beilliaid, wedi ei gym mysgu yn groyw trwy olew.

6 Tôrr ef yn ddarnau, a thy wallt arno olew : bwyd-offrwm yw.

7 f Ac os bwyd-offrwm padell fydd dy offrwm, gwneler o beilliaid trwy olew.

8 A dwg i'r Arglwydd y bwyd-offrwm, yr hwn a wnair o'r rhai hyn: ac wedi y dyger at yr offeiriad, dyged yntau ef at yr allor.

9 A choded yr offeiiiad ei goffadwriaeth o'r bwyd-offrwm, a llosged ef ar yr allor ; yn offrwm tanllyd, o arogl peraidd i'r  r- glwydd.

10 A byddcd i Aaron ac i'w feibion weddill y bwyd-offrwm : sancteiddbeth o danllyd offrymmau yr Arglwydd ydyw.

11 Na wneler yn lefeinllyd ddim bwyd- offrwm a offrymmoch i'r Arglwydd : canys dim surdoes, na mêl, ni losgwch yn offrwm tanllyd i'r Arglwydd.

12 f Offrymmwch i'r Arglwydd offrwm y blaen-ffrwyth ; ond na losger hwynt ar yr allor yn arogl peraidd.

13 Dy holl fwyd-offrwm hefyd a hellti di â halen; ac na phalled halen eyfammod dy Dduw o fod ar dy fwyd-offrwm : offrymma halen ar bob offrwm i ti.

14 Ac os offrymmi i'r Arglwydd fwyd- offrwm y ffrwythau cyntaf ; tywysenau inon wedi eu crasu wrth y tân, sef"fd a gurir allan o'r dywysen lawn, a offrymmi di yn fwyd-offrwm dy ffrwythau cyntaf.

15 A dod olew arno, a gosod thus arno : bwyd-offrwm yw.

16 A llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ef o'i Ŷd wedi ei guro allan, ac o'i olew, ynghŷd â'i holl thus : offrwm tanllyd i'r Arglwydd yw.