Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

PEDWERYDD LLYFR MOSES, YR HWN A ELWIR NUMERI. PENNOD I. 1 Duw yn peri rhifo y bobl. 5 Capteniaid y llwythau. 17 Rhifedi pob llwyth. 47 Neill- duo y Lefiaid i wasanaeth yr Arglwydd. A'R 'R ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, yn anialwch Sinai, ym mhabell y cyfarfod, ar y dydd cyntaf o'r ail mis, yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwy allan o dir yr Aipht, gan ddywedyd, 2 Cymmerwch nifer holl gynnulleidfa meib- ion Israel, yn ol eu teuluoedd, wrth dy eu tadau, dan rif cu henwau, pob gwrryw wrth eu pennau ; 3 0 fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a allo fyned i ryfel yn Israel: ti ac Aaron a'u cyfrifwch hwynt yn ol eu lluoedd. 4 A bydded gyd â chwi wr o bob llwyth; sef y gwr pennaf o dŷ ei dadau. 5 A dyma enwau y gwŷr a safant gyd â chwi. O lwyth Reuben; Elisur mab Sedeur. 6 O lwyth Simeon; Selumiel mab Surisàdai. 7 0 lwyth Judah; Nahson mab Aminadab. 8 O lwyth Issachar; Nethaneel mab Suar. 9 0 lwyth Zabulon; Elïab mab Helon. 10 O feibion Joseph: dros Ephraim, Elisama mab Ammihud; dros Manasseh, Gamaliel mab Pedasur. 11 0 lwyth Benjamin; Abidan mab Gid- eoni. 12 O lwyth Dan; Ahïezer mab Ammisàdai. 13 O lwyth Aser; Pagïel mab Ocran.. 14 O lwyth Gad; Eliasaph mab Deuel. 15 0 lwyth Naphtali; Ahira mab Enan. 16 Dyma rai enwog y gynnulleidfa, tywys- ogion llwythau eu tadau, pennaethiaid mil- ocdd Israel oeddynt hwy. 17 A chymmerodd Moses ac Aaron y gwyr hyn a hysbysasid wrth eu henwau. 18 Ac a gasglasant yr holl gynnulleidfa ynghyd ar y dydd cyntaf o'r ail mis; a rhodd- asant eu hachau, trwy eu teuluoedd, yn ol tŷ eu tadau, dan rif cu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, erbyn eu pennau. 19 Megis y gorchymynodd yr ARGlwYDD i Moses, felly y rhifodd efe hwynt yn anialwch Sinai. 20 A meibion Reuben, cyntaf-anedig Israel, wrth eu cenedl eu hun, yn ol eu teulu- oedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, erbyn eu pennau, pob gwrryw o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a'r a allai fyned i ryfel; 21 Y rhai a rifwyd o honynt, sef o lwyth Reuben, oedd chwe mil a deugain a phùm cant. 22 O feibion Simeon, wrth eu cenhedl- aethau, yn ol eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, eu rhifedigíon oedd, dan rif eu henwau, erbyn eu pennau, pob gwrryw o fab ugain mlwydd ac uchod, sef pob un a'r a allai fyned i ryfel; 23 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Simeon, oedd onid un fil triugain mil a thri chant. 24 24 O feibion Gad, wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu lluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a allai fyned i ryfel; 90 25 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Gad, oeddynt bùm mil a deugain a chwe chant a deg a deugain. 26 O feibion Judah, wrth eu cenhell- aethau, yn ol eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain inlwydd ac uchod, pawb a'r a oedd yn gallu myned i ryfel ; 27 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Judah, oedd bedair mil ar ddeg a thriugain a chwe chant. 28 O feibion Issachar, wrth eu cenhedl- | aethau, yn ol eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a'r a oedd yn gallu myned i ryfel; 29 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Issachar, oedd bedair mil ar ddeg a deugaín a phedwar cant. 30 TO feibion Zabulon, wrth eu cenhedl- aethau, yn ol eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a'r a ydoedd yn gallu myned i ryfel; 31 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Zabulon, oedd ddwy fil ar bymtheg a deugain a phed- war cant. 32 ¶ O feibion Joseph, sef o feibion Ephra- im, wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu teulu- oedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a'r a ydoedd yn gallu myned i ryfel ; 33 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Ephraim, ocdd ddeugain mil a phùm cant. 34 O feibion Manasseh, wrth eu cenhedl- aethau, yn ol eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a'r a oedd yn gallu myned i ryfel ; 35 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Manasseh, oedd ddeuddeng mil ar hugain a dau gant. 36 O feibion Benjamin, wrth eu cenhedl- aethau, yn ol eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac | uchod, pob un a'r a oedd yn gallu myned i ryfel; 37 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Benjamin, oedd bymtheg mil ar hugain a phedwar cant. 33 ¶ O feibion Dan, wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a'r a oedd yn gallu myned i ryfel; 39 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Dan, oeddynt ddwy fil a thriugain a saith gant. 40 O feibion Aser, wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a'r a oedd yn gallu myned i ryfel; 41 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Aser, oeddynt un fil a deugain a phùm cant. 42 O feibion Naphtali, wrth eu cenhedl- aethau, yn ol eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a'r a ydoedd yn gallu inyned i ryfel; 43 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Naphtali, oedd dair mil a deg a deugain a phedwar cant. 44 Dyma y rhifedigion, y rhai a rifodd Moses, ac Aaron, a thywysogion Israel; sef y deuddeng-wr, y rhai oedd bob un dros dy eu tadau. 45 Felly yr ydoedd holl rifedigion meibion