Y BYWGRAFFYDD WESLEYAIDD.
EDWARD ANWYL
A ANWYD yn Ty'n-y-llan, plwyf Llanegryn, sir Feirionydd, Ebrill, 1786. Pan yn fachgen, âi Edward gyda'i rieni i wasanaeth eglwys y plwyf. Cafodd addysgiaeth yn yr Ysgol Ramadegol oedd yn yr ardal. Aeth rhagddo mewn dysgu rhifyddiaeth a Lladin; ond gorfu iddo adael yr ysgol yn ieuanc oblegid marwolaeth ei dad, a'r galw oedd am dano i gynorthwyo ei frawd ar y fferm. Wedi dyfod yn ddyn ieuanc, ei brif bleserau oeddynt chwareu cardiau, ac ymladd ceiliogod. Yr oedd pob chwareuaeth ofer a drwg mewn bri y pryd hwnw yn Llanegryn a'r cymydogaethau. Y gweinidog Wesleyaidd cyntaf a ymwelodd â'r lle oedd Mr. Griffith Hughes, tua diwedd y flwyddyn 1804; ond o dan weinidogaeth y Parch. Robert Humphreys y dychwelwyd ef at Dduw, yn 1806. Yr oedd ef yn ddarllenwr mawr ar hyd ei oes, ac yn ddadleuwr cryf o blaid ein hathrawiaethau, ac aml y drylliai gaerau ei wrthwynebwr. Yn 1808 y dechreuodd bregethu, ac aeth i'r weinidogaeth deithiol yr un flwyddyn. Yn y flwyddyn 1810, penodwyd ef i lafurio yn Nghylchdaith Caerphili gyda Mr. David Rogers, a Mr. Lewis Jones. Yr amser hwnw, yr oedd yn agos i Gaerphili amaethwr cyfrifol, hynod o letygar i bregethwyr y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleyaidd. Tueddai y gŵr at y Methodistiaid, a'r wraig at y Wesleyaid, er nad oedd un o honynt yn aelod. Ar gylch y deuai y pregethwyr yno; eiddo un enwad yn awr, a'r llall nesaf. Dygwyddodd Mr. Anwyl fod yno yr un amser a dau ŵr parchus perthynol i'r Methodistiaid. Aethai yr amaethwr a'i wraig i wrandaw y dyeithriaid; ond anfonodd y forwyn at y blaenor