Tudalen:Y Cychwyn.djvu/133

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

â'i draed ar y ffordd sy'n arwain i ddistryw, ni ddylem oedi ennyd awr. Oherwydd eang yw y porth a llydan yw y ffordd. y . . . honno. Am y trydydd tro, William Davies, yr ydw' i'n gofyn i chi ddŵad ymlaen i'r Sêt Fawr 'ma."

Cododd Wil, ond yn lle troi i'r chwith tua'r Sêt Fawr, aeth i'r dde a thua'r drws, gan gerdded yn gyflym ac edrych yn syth o'i flaen.

"Wil!"

Er nad oedd y gair ond sibrwd, fe'i clywyd gan amryw yn y seddau blaen. Yna, heb aros eiliad i ystyried beth a wnâi, gadawodd Owen y Sêt Fawr a brysiodd ar ôl ei gyfaill. Teimlai fod pob llygad yn rhythu'n anhygoel arno, a phan âi heibio i Ddafydd, a eisteddai ym mhen ei sedd, arafodd ei gamau'n betrus am ennyd, a'i ffolineb byrbwyll fel niwl yn ei feddwl. Ond yr oedd yng nghanol y capel erbyn hynny a'i draed, yn beiriannol bron, yn ei yrru tua'r drws.

"Owen Ellis!"

Ond ni chymerodd sylw o gyfarthiad meinllais Ebenezer Morris, ac ymhen ennyd yr oedd distawrwydd syfrdan, llethol y capel o'i ôl ac yntau'n brasgamu'n bennoeth i'r lloergan a heibio i Huw Jones a George Hobley ac eraill a oedd yn sefyllian yn y stryd tu allan.

Daliodd ef wrth y tro i Allt-yr-ysgol.

"Wil!"

"Y nefoedd, o b'le doist ti?"

"O'r capal, debyg iawn."

"Ia, ond . . . ond 'dydyn' nhw ddim wedi gorffan yno."

"Mi ddois i allan yn syth ar d'ôl di."

"Cyn . . . cyn iddyn' nhw ofyn gras?"

"Ia."

"Yr argian, dyna ti wedi'i gwneud hi, was!" Ystyriodd