Tudalen:Y Cychwyn.djvu/156

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Tipyn o orchast fydd hynny, Now bach. 'Oes dim isio Groeg a Lladin a phetha' felly?"

"Oes, ond yr ydw' i'n siŵr y ca' i help Mr. Morris y gweinidog ne' rywun."

"Cei, debyg iawn, ond . . . Go daria'r hogan 'na!" "Pwy?"

"Enid. "Taswn i heb fod wedi gorfod benthyg yr arian 'na gan Richard Owen i dalu am 'i thricia' hi a'i Herbert, mi faswn yn mynnu dy gael di i'r Bala fis Medi nesa' . . . Wel, mi gawn ni weld sut y try petha' allan erbyn yr ha', yntê, 'r hen ddyn? Efalla' y bydd hi'n o lew arno' ni erbyn hynny."

"Efalla', Dafydd, ond . . ."

"Mae George a finna'n dechra' cael llechi breision eto, ac yr ydw' i'n disgwyl y gwnawn ni gyflog go lew y mis yma. O, mi ddown ni drwyddi'n iawn, 'gei di weld. Y peth pwysig ydi i ti ddal ymlaen i 'studio fel yr wyt ti, ond heb boeni dy ben am y dyfodol, yntê?"

"Ia . Be' sy wedi dwad ohoni hi, tybad?"

"Enid? Dyn a ŵyr. 'Fydd y deuddag punt 'na ddim yn para'n hir, ac wedyn . . . " Ysgydwodd Dafydd ei ben. "Mi fu Twm Jos yn siarad efo mi awr ginio hiddiw."

"O?"

""Roedd o ar ôl Enid byth a hefyd cyn iddi fynd i weini i Gaer Heli, ond 'wyddwn i ddim 'i fod o mor ffond ohoni, fachgan. 'Wyddost ti be' mae o am wneud Sadwrn Cyfri nesa'? Mynd i Lundain i chwilio amdani, dal y trên cynta' o Gaer Heli bora Sadwrn a cholli stem ddydd Llun."

"Ond 'fydd gynno fo ddim syniad ym mh'le i ddechra' . . . "

"Na fydd. Nid lle fel Llan Feurig ydi Llundain, Twm,' ddeudis i wrtho fo. 'Mae 'na rwbath yn deud wrtha' i 'i bod. hi mewn trwbwl yno, Dafydd,' medda' fo. 'Os ydi hi mewn trwbwl, Twm,' meddwn inna', 'mae hi'n siŵr o fynd i un o'r capeli Cymraeg, ac yr ydw' i wedi sgwennu at bob gweinidog."