Tudalen:Y Cychwyn.djvu/158

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Siarad! Siarad! Y kidneys ddeudodd o, nid fy nhafod i."

"Ia, ond yr ydach chi i fod i swatio'n dawal a pheidio ag egseitio."

"Be' mae'r Doctor bach 'na yn feddwl ydw' i? Dol?"

"Mae Doctor Williams yn gwbod be' sy ora' i chi."

"Ne' ddyn mewn wax-works?"

"Rwan, 'Nhad."

"Ne'r dummy 'na sy yn ffenast'-ddillad Manchester House?"

"Mi geiff Owen ddŵad i ista' efo chi nos 'fory tra bydda' i a Dafydd yn y capal. Ond dim ond os byhafiwch chi heno."

"Ddeuda' i ddim gair arall o 'mhen. Ddim gair." Yswatiodd yn y dillad gan sorri. "Ddim gair.

'A fo doeth, efô a dau:
Annoeth ni reol enau.'

Ia, fel y tau dafad o flaen y rhai a'i cneifiai, felly nid agorai yntau ei enau.' Rhowch yr adnod yna ar garrag fy medd i."

"Rwan, 'Nhad." A dau lyfr dan ei fraich, aeth Owen i fyny i'r llofft y noson ganlynol, gan fwriadu eistedd yno i ddarllen yn dawel.

"Sut ydach chi'n teimlo heno, Taid?" " Sôn yr oeddan ni y noson o'r blaen, yntê? . . . "

"Mae gynnoch chi liw reit dda, wir."

" . . . cyn iti wrando ar orchymyn y Pharo bach 'na . . . "

"Rydw i'n dallt bod Doctor Williams yn bur hapus yn eich cylch chi pnawn 'ma"

" . . . am yr Apostol pan oedd o yn Rhufain. Mi fùm i'n edrach ar rai o'r esboniada' 'na . . . "

"Mi wyddoch be' ddeudodd y Doctor. 'Dydach chi ddim i roi'ch breichia' allan o'r dillad i ddarllan. 'Tai o'n gwbod . . . "

"Mi liciwn i wneud pregath amdano fo yn Rhufain, yn aros 'i brawf a dim yn digwydd. 'A Phaul a arhoes ddwy flynedd gyfan yn ei dŷ ardrethol ei hun, ac a dderbyniodd bawb a'r oedd yn dyfod i mewn ato'—dyna'r testun. Pregath fach dawal, yn tynnu darlun yn lle athrawiaethu. Dim gweiddi, dim bloeddio,