Tudalen:Y Cychwyn.djvu/215

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Mae 'na achosion da tu allan i'r capal, ond oes?"

"Oes, ond yn Llundain . . . "

"Yn enwedig mewn lle fel Llundain, 'faswn i'n meddwl . . .

'Ydi Mr. Radcliff yn aros ar 'i draed y nos weithia' efo rhywun sål, fel y bydd yr hen Lias Tomos yn amal? Ydi Mr. Radcliff . . . ?"

Ond agorodd y drws a daeth y gweinidog i mewn atynt. "O, dyma chi, Owen! Yr oeddwn i'n meddwl mai . . . ym . . . chi glywais i'n curo gynna'. Ddrwg gen' i i chi orfod aros cyhyd. Ond mae Rhiannon wedi'ch cadw chi'n ddiddig, yr ydw' i'n siŵr."

"Ydi, diolch, Mr. Morris. Sgwrs ddiddorol, ddiddorol iawn, wir."

"Da iawn . . . Hylô, o b'le daeth y rhain, Rhiannon?"

Edrychai ar hanner dwsin o afalau a oedd ar y bwrdd. "Ydi pobl wedi . . . ym . . . dechrau clywed yn barod eich bod chi'n sâl?"

"Ydyn', mae'n amlwg. 'Fala' cadw o ardd yr hen . . ."

Arhosodd hi ennyd gan wrido.

"Yr hen Lias Tomos, yr ydw' i'n siŵr," ebe Owen, gan wenu arni.

"Ia." Ond ni wenai'n ôl.

Er hynny, ei feddwl ef ac nid ei meddwl hi a oedd yn fawr ei gynnwrf.

"Campus, Owen, campus," meddai Ebenezer Morris wedi iddo ddarllen y llythyr yn y stydi. "Ia, wir ; ia, wir. Yr wyf yn falch dros ben, dros ben—er fy mod i'n . . . ym . . . gwybod ymlaen llaw."

"O?"

"Mi ddigwyddais daro ar . . . ym . . . un o'r arholwyr, y Parch. Esmor Jones, ar blatfform Caer Heli y Sadwrn dwytha'. Y safon yn uchel, yn uchel iawn, medda' fo . . . A 'rŵan . . .