Tudalen:Y Cychwyn.djvu/245

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ydi, ond 'gŵr bonheddig' mewn ystyr arall..."

"Ewch ymlaen Huw Jones," cynghorodd y Cadeirydd.

"Ordor, hogia', ordor !".

"Lias Tomos o Lan Feurig
Sy am fod yn ŵr bonheddig,
Mynd o gyrraedd llwch a rhwbal
A helyntion blin y chwaral.

Cyn bo hir mi ddaw y gaea',
Tywydd mawr a rhew ac eira,
Pawb yn rhynnu yn y walia',
'Fynta' wrth 'i danllwyth gartra'.

Efo'i Feibil a'i Esboniad,
Poeni dim am blyg na slediad
Na hollt gron na ffawt na chefna',
Ond ymgolli yn 'i lyfra'.

Iechyd iddo, gorffwys tawal,
Yw dymuniad yr holl chwaral.
Bydded iddo fo a'i Sarah
Fyw yn hŷn na'r hen Fethwsla."

Yn ystod y gymeradwyaeth a'r curo-traed a ddilynodd y darn, camodd Huw Jones i lawr oddi ar ei focs a chychwyn yn ôl i'w le, ond cydiodd y Cadeirydd yn ei fraich a rhoi'r Beibl yn ei ddwylo.

"Hwdiwch, Lias Tomos," meddai'r dyn bach pan ddistawodd y cynnwrf, gan anghofio gweddill ei araith. "Diar, mi fydd 'na le rhyfadd yma hebddoch chi! 'Rargian, bydd!"

Siaradodd amryw eraill, a Dafydd yn eu plith, rhai yn ddwys, rhai yn ddigrif, ac yna cododd Elias Thomas eilwaith i draddodi