Tudalen:Y Cychwyn.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn bwyllog i mewn i'r twll nes teimlo ohono i'w flaen gyrraedd y powdr. Yna â'i gyllell boced torrodd y ffiws, gan adael darn helaeth ohono tu allan i geg y twll. "Ydi o'n barod i danio 'rŵan?" gofynnodd Owen wrth weld ei dad yn tywallt gweddill y powdr i mewn i'r twll. "Ddim eto, Now bach, nes rhoi'r stamping, y llwch gwyn o'r wal, ynddo fo. Dacw fo dy dad yn 'i dywallt o i mewn, wel'di, ac yn 'i wthio fo i'r twll hefo'r pren stampio. I gledu tipyn arno fo, wyt ti'n dallt . . . 'Oes gin' ti bapur poeth, Bob?" gwaeddodd ar ei bartner.

"Oes."

Datododd Robert Ellis ddarn o'r llinyn yng ngwead pen y ffiws a chlymodd ef am y 'papur poeth'.

"Iddo fo fod yn siŵr o danio, wyt ti'n gweld, Now bach," eglurodd George Hobley. "Dydi'r tân ar ben y ffiws ddim yn cydio bob amsar, wsti, a 'fydd gan dy dad ddim llawar o amsar i roi mwytha' iddo fo, na fydd? Os na fydd o isio cael 'i chwythu i . . . i Aberdaron."

"I be' mae'r llwch yn dda ?"

"Y stamping? I wneud y twll yn airtight, rhag i'r powdwr chwythu allan yn fflam heb wneud niwad i'r graig."

Trawodd Robert Ellis ben y ffiws dan garreg, ac wedi gollwng y botel bowdr a'r pren stampio a'r cwdyn i lawr, gorffwysodd ar y brig, gan wenu i lawr ar Owen.

Cyn hir canodd y corn naw a brysiodd Owen wrth ochr George Hobley i'r "cwt 'mochal ffaiar" ar ganol y Twll.

Ymgasglodd rhyw ugain o ddynion ynddo cyn i "gorn yr ail-dro" gyhoeddi ei bod yn dri munud wedi'r awr, ond llwyddodd y bachgen i aros wrth y drws i wylio'i dad yn tanio'r ffiws. Gwelodd ef wedyn yn llithro i lawr y rhaff, yna'n gafael yn ei chynffon a'i chlymu am biler carreg dipyn i ffwrdd fel na falurid hi gan y saethu, cyn rhedeg atynt i'r cwt-ymochel.

Pan dorrodd taranau'r saethu drwy wahanol dyllau'r chwarel,