"Ar bob cyfri, Doctor, os gwnewch chi."
"O'r gora', mi sgwenna' i ato fo ar unwaith."
Galwodd y meddyg enwog yn ysbyty'r chwarel y prynhawn Gwener canlynol, ac yn yr hwyr brysiodd Dafydd i weld y Doctor Williams.
"Wel, be ydi'r ddedfryd, Doctor?"
"Ista' i lawr am funud . . . Sigaret?"
"Dim 'rŵan, diolch."
"Hm . . . m. Wel, mi ges i air efo dy dad ar ôl i Sir Andrew 'i weld o. Mi ddeudis wrtho fod y rhaid iddo fo orffwys am rai wythnosa', peidio â darllan dim am dipyn na gwneud un gwaith fydd yn gofyn iddo fo graffu o gwbwl . . . Hm . . . m." Yr oedd y meddyg yn bur anniddig ac nid edrychai i wyneb Dafydd.
"Rydach chi'n cuddio rhwbath, ond ydach, Doctor?"
"'Faint ydi d'oed di?"
"Pedair ar bymtheg, Doctor. Pam?"
"Hm . . . m. A'th dad yn hannar cant?"
"Wyth a deugian ddeufis yn ôl."
"Hm . . . m. 'Wyt ti mewn lle go lew yn y chwaral?"
"Na, lle gwael iawn sy gin' i."
"Hm . . . m." Croesodd y meddyg at gwpwrdd yng nghongl yr ystafell a thywalltodd lymaid o chwisgi iddo'i hun. Drachtiodd ef ar unwaith a dychwelodd at Ddafydd, a phelydryn o benderfyniad yn ei lygaid breuddwydiol.
"Pan soniodd y nyrs gynta' wrtha' i fod dy dad yn cael trwbwl efo'i olwg, 'doeddwn i ddim yn licio sŵn y peth yntôl. Mae llawar un wedi mynd yn ddall ar ôl damwain fel yr un gafodd o. Mi es â'r teclyn yma, yr ophthalmoscope, i fyny i'r Hospital bora Llun, ac mi welwn fod nerf y llygaid yn llwyd. Hm . . . m."
"Be' mae hynny'n olygu, Doctor?"
"Roeddwn i'n ofni'r gwaetha' wedyn, ond yn gobeithio fy mod i'n gwneud camgymeriad ac y basa' Sir Andrew'n meddwl yn wahanol. Ond . . . hm . . . m."