Tudalen:Y Cychwyn.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddŵad yma i balu clwydda' wrtha' i." Yna, wedi ymdrech y gweiddi, suddai'n ôl i'w gadair yn llipa gan grynu a griddfan, a'i lygaid dall yn ymwthio'n annaturiol o'i ben, a'i wddf chwyddedig fel petai ar dorri. Ildiodd un noson yn niwedd y flwyddyn, er hynny, pan yrrai gordd ei galon eco, fel morthwylion ffyrnig, drwy bob gwythïen o'i gorff. "Y nefoedd fawr, Doctor," meddai pan soniodd y meddyg am "orffwys a pheidio â phryderu," "be' ydach chi'n feddwl ydw' i—yr hen gi 'na sy gan Rhys Bwtsiar?" Yr oedd yr hen gi yn ddall, ond ymddangosai'n ddibryder iawn, y mwyaf cyfeillgar a'r hapusaf o holl gŵn y pentref.

Rhywfodd, wrth edrych yn ôl—a hyd yn oed o bellter blynyddoedd fel hen ddyn y gwelai'r Parch. Owen Ellis ei dad, er nad oedd ond wyth a deugain pan fu farw. Gŵr yn anterth ei nerth ydoedd, ond i hogyn deuddeg oed ymddangosai, a barf frithgoch ar ei wyneb tenau, curiedig, a'i symudiadau mor ffwndrus, yn hen iawn. Ganwaith fel y llithrai'r blynyddoedd heibio y gresynodd y gweinidog i'w dad gael ei dorri ymaith ym mlodau'i ddyddiau; a phan soniai eraill am y chwarelwr dall, gofidio i'r ddamwain ddigwydd ac yntau mor ieuanc a wnaent yn ddieithriad bron. Er hynny, er gwaethaf rheswm a ffaith, arhosai argraffiadau'r bachgen yn nyfnder ei feddwl—y gloywder arian cynamserol yn y farf a'r gwallt, y llinellau yn yr wyneb llwyd, y llais ofnus, goraddfwyn, yr anallu tosturus. Ni fedrai Owen Ellis yn ei fyw gysylltu'r gair 'ieuanc' â'r darlun hwnnw.

Galwyd y plant o'u gwelyau yn oriau mân un bore oer yn niwedd Ionawr. Arweiniodd Dafydd hwy i lawr y grisiau i'r "siambar ffrynt", ac yno safodd y tri ohonynt mewn ofn anesmwyth wrth droed y gwely. Er bod y tân yn ddisglair a'r ystafell yn gynnes, cofiai Owen yn hir wedyn iddo afael â'i law chwith yn rheilen y gwely ac i ias o oerni redeg drwy'i holl gorff.