Tudalen:Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Marwnad Merch

DAFYDD NANMOR

BLIN yw hyder o weryd,
Hudol byr yw hoedl y byd.
Caru dyn ifanc irwen
A marw a wnaeth morwyn wen.
Dan weryd mae dyn wirion,
Anhap oedd roi wyneb hon.
O daearwyd ei deurudd
Mae'n llai'r gwrid mewn llawer grudd.
Och imi, pe marw chwemwy,
O bydd ei math mewn bedd mwy.
Och Dduw Tad, o chuddiwyd hi,
Nad oeddwn amdo iddi!
Och finnau, o chaf einioes,
I'w rhoi yn fud, arhown f'oes.
Gweddw am hon yn y bronnydd
Ydyw'r gog a'r bedw a'r gwŷdd,
A cherdd bronfraith orchuddiwyd
Is y lan, ac eos lwyd.

Os marw yw hon îs Conwy,
Ni ddyly Mai ddeilio mwy;
Gwae finnau, nid gwiw f'annerch,
Os mewn bedd mae annedd merch.
Gwywon yw'r bedw a'r gwïail
Ac weithian ni ddygan ddail.
Os marw fis Mai y forwyn,
Och Fair, gan farw y ferch fwyn!