Tudalen:Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y swydd pan na roid dan sêl
I'th Eos gyfraith Hywel?
A'r hwn pan gafas y rhain
Wrth lawnder cyfraith Lundain,
Ni mynnyn am ei einioes
Noethi crair na thorri croes.
Y gŵr oedd dad i'r gerdd dant
Yn oeswr nis barnasant;
Deuddeg yn un nid oeddyn,
Duw da, am fywyd y dyn.
Aeth y gerdd a'i thai gwyrddion
A'i da'n siêd wedi dwyn Siôn;
Aeth llef o nef yn ei ôl,
A'i ddisgybl yn ddiysgol;
Llyna ddysg i'r llan a ddaeth,
Lle ni chair llun o'ch hiraeth.
Wedi Siôn nid oes synnwyr
Yn y gerdd, na dyn a'i gwyr.
Torres braich tŵr Eos brig,
Torred mesur troed musig,
Torred dysg fal torri tant,
Torred ysgol tŷ'r desgant.
Oes mwy rhwng Euas a Môn
O'i ddysg abl i'w ddisgyblion ?
Rheinallt nis gŵyr ei hunan,
Rhan gŵr er hynny a gân.
Ef aeth ei gymar yn fud,
Yn dortwll, delyn deirtud,
Ac atgas yn y gytgerdd
Eisiau gwawd eos y gerdd.
Ti sydd yn tewi â sôn,
Telyn aur telynorion.