Tudalen:Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

I ofyn March

TUDUR ALED

HYYDER Lewis Amhadawg—
Erchi, a rhoi, march y rhawg,
A'i ddewis, erbyn mis Mai,
Merch deg, a march a'i dygai.

Trem hydd, am gywydd, a gais,
Trwynbant, yn troi i'w unbais;
Ffriw yn dal ffrwyn, o daliwn,
Ffroen y sy gau, fal Ffrawns gwn;
Ffroen arth, a chyffro'n ei ên,
Ffrwyn a ddeil ei ffriw'n ddolen.

Llygaid fal dwy ellygen
Llymion byw'n llamu'n ei ben;
Dwy glust feinion aflonydd,
Dail saeds, uwch ei dâl y sydd;
Trwsio, fal goleuo glain,
Y bu wydrwr, ei bedrain;
Ei flew fal sidan newydd,
A’i rawn o liw gwawn y gwŷdd;
Sidan ym mhais ehedydd,
Siamled yn hûs am lwdn hydd.

Ail y carw, olwg gorwyllt,
A'i draed yn gweu drwy dân gwyllt;
Dylifo, heb ddwylo, ’dd oedd,
Neu weu sidan, nes ydoedd!