Dau frawd oedd yn cael eu dihenyddio am fwrddrad, 、yn Maidstone, yr hynaf a drodd y dihenyddiwr ymaith yn gyntaf, yr oedd ei yftyfnigrwydd gymmaint, fel na ddywedodd un gair. Yr ieuangaf erbyn hyn, oedd yn ymbarotoi, a'r lluaws yn dysgwyl yn aftud iddo ddweud rhyw beth mewn ffordd o gyfaddefiad, ond yn lle hyny, fe a'u cyfarchodd hwynt, fel hyn, Bobl, y mae fy mrawd yn hongian o flaen fy wyneb, ac nid yw ond drych canolig i chwi edrych arno, yn fuan byddaf finnau yn yr un fath gyflwr yn ddrych arall i chwi, ac yna bydd genych bar o ddrychau, ac yn awr, bore da i chwi.
Mab ieuanc o Ruddlan, oedd unwaith yn berchen llawer o feddiannau, ond trwy bob math o oferedd ac afradlondeb, a wastraffodd y cwbl ag y feddai; pan sylwodd un o'i berthynasau wrtho, yr wyf yn gobeithio, John, dy fod yn gweled dy hun yn ddedwydd, gan dy fod wedi terfynu dy holl ofalon. Pa fodd y mae felly, ebe'r oferwr? Am nad ydwyt wedi gadael dim heb ei wario, i ofalu am dano rhag-llaw.
Pan y gwnaethwyd y cynnyg ar fywyd Buonoparte, yn Paris, trwy ollwng ato ergyd o rvw offeryn ag oedd wedi ei ddyfeisio at y pwrpas, er na chymmerodd yr effaith dymunol, gan i'r dyliftad dinyftriol fyned rhwng cerbyd Buonoparte a'r erbyd yr oedd ei wraig ynddo, yr hyn a barodd i un ofyn; pa beth yw y'ftŵr yna; Dim ond rhyw chwiff sydd wedi cymmeryd lle rhwng Buonoparte a'i wraig, ebe un o'r dyrfa.
Hen delynor â chlŷn bren, aeth ar ei daith tua Maesyfed, ar dywydd oer iawn, nid oedd na glo, mawn, na choed, yn agos yn y gymmydogaeth; yr hyn a barodd iddo wneud ei arosfa mor fyr ag oedd bosibl; felly, ar y trydydd bore, fe ymddangosodd yn barod i'w siwi nau, yr hyn a wnaeth i wr y ty ofyn iddo, Pa beth yw yr achos o'ch brys? I hyn yr attebodd, Os arosaf yma yn hir, ni byddaf abl i sefyll; Nid ydym yn yfed mor galed, ebe gwr y ty. Fy ofn sydd o natur arall, ebe'r cerddwr; y mae cymmaint o eisiau tanwydd yn eich tŷ, fel y mae'm clyn ddeheu a minnau mewn perygl o orfod ymadael.