Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Digrifwr Cymraeg.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Mâb ieuanc, yn agos i Bwllheli, wedi bod yn hir yn caru merch cymmydog; ond yn ddiflas am briodi—y canlyniad—digwyddodd i'r ferch feichiogi; yr hyn a barodd i wr bucheddol o'r gymmydogaeth fyned at y mab, a gofyn iddo, os oedd y peth yn wirionedd, ac os oedd, ei fod yn rhyfeddu am y fath ddygwyddiad:—Yn wir, ebe y mab, fe fuasai yn ddau cymmaint o ryfeddod pe buaswn i yn beichiogi yn ei lle hi.

Gwr oedd yn byw yn agos į Glydau, a aeth i dafarndŷ, yn Arberth, lle y clywodd ychydig o ddynion yn areithio llawer am Hanesyddiaeth a Diarebion. Uno honynt a ddywedodd fod diareb yn mhlith yr Italiaid, fod tair o wragedd yn ddigon i wneuthur marchnad o chwedleua. Chwedleua, ebe y gwr dyeithr, os na fydd dim arall yn eisiau, caniatewch i'm gwraig innau fod yn bedwerydd, a mi w'ranta bydd yno fuir.

66

Hen wraig o Drehedyn oedd yn achwyn nad oedd un dant yn ei phen yn sicr; y maent oll yn siglo. Nid heb achos; ebe un o'i chymmydogion, waith y maent yn gorfod aros yn agos i dy dafod; D neb gaiff lawer o lonyddwch, os bydd yn yr un plwyf a hwnw. Offeiriad, nid pell o Gaergybi, wedi cymmeryd y geiriau canlynol yn destun, " Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfanau," ac a aeth dros y geiriau amryw weithiau. Hen wr o'r gynnulleidfa a gododd yn fyrbwyll, gan edliw i'r Prelad. Tŷ eich tad, wyneb y gwr drwg, dylai fod cywilydd yn eich gwawr i ryfygu'r fath gelwydd. Yr wyf yn ei adnabod ef a'i dŷ cyn eich geni chwi, Syr, a D——l erioed y welais istafell yno ond un, a'r gieir yn y gronglwyd yn hono!

Gwr bonheddig, a aeth i dafarndŷ yn Llanidloes, i lettya dros wythnos neu 'chwaneg; ond un diwrnod, fe ddeisyfodd gael ben llwdwn dafad i giniaw; ond rhyw ffordd neu gilydd, fe esgeuluswyd ei orchymmynion, yr hyn a barodd iddo anfoddloni yn greulon. Nid rhaid chwi grintachu cymmaint: yr oeddwn yn meddwl fod hwnw yn nglyn wrthych bob amser, ebe'r wraig !

Cyfreithiwr ag oedd yn gloff o glyn, a aeth i ddadleu achos yn Rhydychen o flaen barnydd ag oedd â thrwyn