Y Parchedig Mr.-- oedd yn arferol o dreulio llawer o amser yn ei Lyfrgell; ond yr oedd yn ofalus iawn am bryd o fwyd: ond un diwrnod, dygwyddodd aros yn lled hir cyn dyfod at y bwrdd; hyn a barodd i'r wraig grintachu peth, a dweud wrtho, y byddai yn dda gyda hi, pe byddai y fath beth a'i gwneud hi yn llyfr; I ba ddyben ebe y gŵr, Byddwn yn sicr o'ch cyfeillach yn feunyddiol. Os yn llyfr, fe fyddai yn ddymunol i fy anwylyd fod yn Almanac, ebe y gwr. Paham yn Almamac, mwy na ryw lyfr arall? Cawn un newydd bob blwyddyn.
Offeiriad plwyfnid pell o Ddinas Mowddy, a chwennychodd bod plantos y plwyf yn hyddysg yn eu Catechism; ar fore sabbath, fe gyfarfu â bachgenyn â Bibl dan ei fraich, gofynodd iddo amryw gwestiynau, yn mhlith ereill, os oedd yn gwybod pwy oedd y dyn gwaethaf a fu ar y ddaear? Yr Hogyn a'i hattebodd, Moses. O, ffei, ffei, ebe mab Aaron, yr ydych yn gosod un o'r dynion gorau, yn y lliw gwaethaf; Cythraul o gelwydd yw, er dy fod yn ŵr urddasol, y mae pawb yn dorwyr gorchymmynion; ond fe ddarniodd Moses y deg ar unwaith.
Un Gwyddyl a ddywedd wrth un arall o'r un genedl, Y gallai arbed mit o bunnau iddo wrth ychydig o drafferth. Yr hen geiliog cybyddlyd a gnôdd ei gil ar y cynnyg, ac addawodd fod wrth ei reolau. Yr ydych yn bwriadu rhoddi ugain mil o bunnau o waddol gyda'ch merch, Ydwyf yn siwr, ebe y goludog : 1 wneuthur cymmwynas i chwi, Mi a fyddaf boddlon wrth bedair mil ar bymtheg, ebe buan ei synwyr.
Cyfreithiwr ag oedd yn fychan o gorffolaeth, a gafodd ei wysio i roddi tyftiolaeth mewn achos ag oedd dau ŵr yn ymrafaelio yn ei gylch; ond wrth roddi ei dyftiolaeth, yr oedd yn cael ei holi yn galed ac yn llesmeiriog iawn gan gyfreithwr arall, yn agos o faintoli Goliath, a gofyn, yn mhlith pethau ereill iddo, Pwy alwad ydych? Cyfreithwr, ebe y Dryw; Cyfreithwr yw y fath chwilen a chwi? Mi allaf ddodi mwy o gorf nå chwi yn fy mhoced; Yn wir, ebe'r Gwreng, pe dodech fi yno, byddai mwy o gyfraith yno nag y fu erioed yn eich siol.