Tudalen:Y Gelfyddyd Gwta.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ELIN
(G.M.)

Bendith tad, rhodiad mewn rhin, cyfiawn-deg
Fendith mam ddierwin;
A'm bendith i gwedi gwin,
O fawlair fo i Elin.

—EDWARD URIEN.


GAIR MWYS
(Pen. 99)

Anhawddgar feinwar, a'r faneg yn aur,
Yn arwain pryd rhydeg;
Anhapus, ddyn weddusdeg,
Anffortun i'r topyn[1] teg!

An-fwyn, anaddwyn, an-wych, anluniaidd,
Anlanaf, lle delych;
An lawen, ddyn oleuwych,
An lan iawn wyd o lun wych!

—SION TUDUR, i ferch a'i henw Ann.


GLENDID


Od ydwyd, fal y dywedan', yn ffôl
Ac yn ffals dy amcan,
Hynod i Dduw ei hunan
Fentro dy lunio mor lân!

—DIENW.


  1. topyn, cudyn gwallt. Gwelir mai chwarae ar enw'r ferch y mae'r prydydd