Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Gestiana.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MELINAU TRE'R GEST.

Yn yr hen amser eiddo y Penadur ydoedd y Melinau; a gosodid hwynt i'r Rhydd-ddeiliaid. Cawn fod trigolion y Gest yn amser y Brenin Edward VI, yn dra chyndyn i ufuddhau i'r Cyfreithiau Seisnig. Am eu hanufudd-dod, gorfodwyd hwynt i gludo coed at felinau y brenin. Yr oeddynt yn cael eu galw "Costoglwyth y Gest." Cawn hefyd yn "Wynne's History of Gwydir Family," fod y Tywysog Du wedi anrhegu Syr Howel y Fwyall o Fronyfoel, (yn mhlith pethau eraill), â Melinau'r Brenin ar yr afon Dyfrdwy.

Gwaelod y Gest, neu cymydogaeth Pentrefelin, oedd y lle pwysicaf yn y Gest, yn yr hen amser; yma mae Eglwys St. Cyn- haiarn, ac yn lled agos iddi yr oedd safle MELIN ABERDOWARCH,[1] neu Felin y Tywysog yn y Gest, y felin gyntaf ac y mae hanes am dani yn y parthau hyn: ac ar ei hal daeth Melin Carregyfelin; a'r drydedd Felin a wnaed yn 1680, gan Col. William Price, o'r Rhiwlas, ac a elwid yn "Felin Newydd," Pentrefelin.

Y mae genym hanes am y Felin gyntaf, a'r olaf a nodwyd, fod y ddwy yn tra rhagori ar holl Felinau Cwmwd Eifionydd yn eu hamser. Am tua 180 o flynyddau y bu y Felin newydd yn malu, hyd nes y syrthiodd y talcen i fewn, lle yr oedd yr Olwyn ddwfr, a rhan o'i phen yr un modd. Bu llawer arlunydd yn tynu llûn y Felin hon pan yn y cyflwr a nodwyd, o 1864 i 1870. Saif hon gerllaw y ffordd yn Pentrefelin, ac y mae muriau adfeiliedig y felin yn aros eto, a'r dyddiad ar un o'r trawstiau, "W.P., 1680." Gresyn oedd ei gollwng i lawr.

Y mae Tŷ uwchlaw'r felin, a elwir Eisingrug, lle byddai y rhai a ddeuent ac ydau i'r felin yn cael ei drin cyn ei osod ar yr odyn. Yr oedd deddf, neu reol neillduol yn y felin hon am y doll, ac am grasu. Hefyd, yr oedd mesurau yr ŷd a'r blawd pob Cwmwd yn gwahaniaethu ychydig oddi wrth eu gilydd.

  1. In the extent of "North Wales," is the account of Felin Aberdowarch, and the following note is a scrap translated from the Latin.
    "Et omes isti villani istuis ville fac' medietatem opis g n gitis ad molend d ne Princ de Abdowargh."
    "Of the many Mills in Eifionydd named in the Extent, that of ABERDOWARCH is the most conspicuous in the care taken for its kept in good order. The river here indicated, is that which runs through Pentrefelin into Ystumllyn Lake, the over-flow of which would be a frequent cause of damage to the Mill, and necessitate the precautions taken; the Lake being formerly under direct tide influence, and the Mill was nearer that part of the road to the Parish Church, called "Sarn yr Ynys."