Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Gestiana.djvu/3

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AT FY NGHYDWLADWYR Y CYMRY.

Yr esgusawd sydd genyf dros ddwyn allan y gyfrol fechan hon ydyw, fy mod yn credu na ddylid gadael i ddim golli a fo teilwng o'i gofnodi am a fu yn mhlith ein cenedl,—yn lleoedd, personau, ac arferion y dyddiau gynt, a chan fy mod wedi casglu a chrynhoi olion henafiaethol yn ystod fy oes am fy ardal enedigol yn fwyaf arbenig, teimlwn yn ddyled arnaf i'r oes bresenol yn gystal a'r oesau dyfodol, eu hanrhegu a'r hyn a gesglais a glywais, ac a gofiwn o hynodion a henafiaethau Tre'r Gest.

Bu gorfod gadael allan lawer o gofnodion gwerthfawr rhag chwyddo'r llyfr, a chodi ei bris, ond os bydd y llyfr hwn yn cael cylchrediad fel ac i ddigolledu yr awdwr, efallai, os ceir estyniad ei oes, y dilynir ar yr cynllun hwn yn mhellach.

Nid arbedwyd unrhyw lafur nac ymchwiliad ac ydoedd o fewn, cyrhaedd, i roddi o flaen y darllenydd grynhodeb o'r pethau mwyaf gwerth eu gwybod, mewn cysylltiad a Thre'r Gest am y ddwy ganrif a aethant heibio. Hyderir y bydd hanes Dyffryn Madog, ac adeg cau y Cob, ac anturiaethau mawrion cysylltiedig a hyny yn ddyddorol.

Am y Beddergreiph a groniclwyd, nis gallasem roddi cofnod o'r OLL yn y ddwy fynwent, ond ymdrechwyd i gofnodi y rhai hynaf a'r mwyaf adnabyddus. Gan mai hwn ydyw yr ymgais cyntaf a wnaed o'r natur yma i gofnodi henafiaethau yr ardal, hyderaf y gwna y'ddarllenydd edrych dros ben unrhyw wallau a ddichon fod yn y llyfr yngoleu daioni'r amcan mewn golwg.

Yr ydwyf dan rwymau i gydnabod cynhorthwy sylweddol Mr. Robert Evans, Beddgelert (Pentrefelin gynt) yr henafiaethydd llafurus yn nygiad y gwaith hwn yn mlaen.

Gan obeithio y gwasanaetha hyn o draethawd fel amgueddfa rhag difancoll am helyntion Tre'r Gest yn y gorphenol, ac y bydd i'r to presenol a'u holafiaid yn cael pleser o'i ddarllen.

Y gorphwysa,

Yr eiddoch yn ddiffuant,

Tremadoc, 1892.

ALLTUD EIFION.


Gall fod ychydig wallau yma ac acw wedi cymeryd lle, ond

"Os gellwch gwellwch y gwallau—wylwyr
A welwch yn eisiau;
Newidiwch bob gau nodau
Llithr neu gyrch Llythyren gau."