enw. Clywsant rywun yn dywedyd mai cwch Fred Smith, gwas y Faenol, ydoedd. Sais oedd Fred. Gadawsai ei le fel gwas yn sydyn ar ôl tymor hau, a phrynu cwch iddo'i hun, ac ymarfer rhwyfo yn hwnnw a wnâi hwyr a bore. Bwriadai ennill arian mawr yn yr haf trwy gludo ymwelwyr a physgota.
Golchi'r tu mewn i'r cwch glas yr ydoedd pan aeth Siwan a Gwyn i'w gyfeiriad. Rhoes ei law wrth ei gap yn foesgar, a dechreuodd Siwan siarad ag ef ar unwaith. Yn Gymraeg y siaradai ar y cyntaf, ond gan na fedrai Fred siarad yn rhwydd yn yr iaith honno fe droes i'r Saesneg.
"A ych chi'n mynd yn eich cwch hyd y creigiau draw ambell waith?"
Gwridodd y bachgen dros ei wyneb i gyd, ac ymsythodd, fel petai am ofyn "Beth yw hynny i chi?" ond fe'i hadfeddiannodd ei hun a dywedodd:
"Na... dim hyd y creigiau ...y... ond
"A yw hi'n bosibl mynd mewn cwch a glanio fan draw?" gofynnai Siwan eto.
"Mae'n rhy beryglus i lanio yno, Miss," ebe Fred yn bendant. Mae creigiau o'r golwg yn y dŵr, fel na ellir mynd â chwch yn ddigon agos i lanio."
"O!" ebe Siwan yn siomedig.
"A oes ogofâu yn y creigiau yma," gofynnai Gwyn. "Yr ochr arall mae’r ogofâu," ebe Fred. "Mae dwy neu dair ohonynt, ac y mae'n ddigon hawdd mynd â chwch tuag atynt."
"Yr ochr yna rym ni'n byw," ebe Gwyn.
"Chi sy wedi dod i Gesail y Graig?"
Rhoes Gwyn nod o gadarnhad.