Tudalen:Y Lleian Lwyd.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD VI

MAE'N debyg mai arwydd o dywydd sych i ddyfod oedd y niwl hwnnw, oherwydd drannoeth a thradwy caed hin fwyn, ddymunol, teilwng o fis Mehefin ar ei orau.

Ar y trydydd bore, dywedodd Mr. Owen ar frecwast: "Pwy garai ddod am bicnic allan i'r wlad heddiw? Beth wyt ti'n feddwl o hynny, Siwan Siriol?"

"O, ie, Nwncwl. Fe fydd yn hyfryd, ac yn dipyn o newid inni."

Yr oedd y lleill i gyd yr un mor eiddgar, ac addawodd hyd yn oed Mrs. Owen a Mrs. Sirrell ymuno â'r cwmni.

"Pa ffordd yr awn ni?" gofynnai Gwyn.

"A fyddwn ni reit yn y wlad?" holai Idwal.

"A yw hi i fod yn daith bell iawn? Nid ydym ni ein dwy mor ieuanc ag y buom," ebe Mrs. Sirrell.

"Wel, 'nawr," ebe Mr. Owen, "mae bws yn mynd oddi yma i Lan Rhyd am hanner awr wedi dau. Fel gawn ein cario yn hwnnw, a cherdded wedyn drwy heol fach gul nes dod allan yn un o gaeau Pen Sarn. Mae yno lwybr trwy ddau gae, a chaeau hyfryd ydynt, fel y cofi di, Ester. Gallwn gael ein tê yno a dychwelyd yr un ffordd, neu ddyfod allan i ben y bencydd draw a chael ein tê yno.'

Siaradai Mr. Owen yn ddiniwed ddigon, ond mewn gwirionedd bu Siwan ac yntau'n trefnu'r daith yn ofalus y prynhawn cynt, gan i Mr. Owen ei hun gael