Tudalen:Y Lleian Lwyd.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"'Does dim eisiau ichi ofni Nwncwl a minnau. Wyddom ni ddim amdanoch chi, ond yr ydym am eich helpu."

"Dewch i'r ogof," ebe Siwan, "fe welais i ddillad yno. Rhaid ichi newid cyn cael annwyd."

"Pam y daethoch chi ar fy ôl i? Beth ych chi am wneud â mi?"

"Rwy' wedi'ch gweld chi o'r blaen," ebe Siwan.

"Fy ngweld i o'r blaen?" ebe'r eneth, a dychryn lond ei gwedd. "Pa bryd, a pha le?"

"Fe'ch gwelais chi lawer bore yn ddiweddar am bump o'r gloch yn cerdded yn ôl a blaen ar lan y môr yma, a gwisg lwyd, hir, amdanoch, a rhywbeth llwyd am eich pen. Y Grey Nun oeddech i mi. A welwch chi simneiau tŷ fan draw yng nghysgod y creigiau? Dyna lle'r wyf i'n byw. 'Rwy wedi bod yn siarad â chi dros y môr, ac yn dychmygu eich bod chi'n siarad â mi ac yn gofyn am fy help. Dyna pam y daethom ni yma heddiw. Fi a wnaeth i Nwncwl ddod, er mwyn gweld pwy oedd y Lleian Lwyd. Yr oeddwn i'n siŵr bod yma rywun ac eisiau fy help arni. Fe wn yn awr fy mod yn iawn. A wnewch chi ddweud eich stori wrthyf i? A ddywedwch chi eich enw i ddechrau?"

"Rita," ebe'r ferch.

"Siwan yw fy enw innau—Siwan Sirrell."

"Yr own i mor unig," ebe Rita, a dagrau lond ei llygaid glas, "ac yr own i'n meddwl ei bod yn ddiogel imi fynd allan yn y bore bach pan na byddai cwch ar y môr. Yr own i'n mynd yn y dydd allan drwy'r top, ac eistedd neu orwedd yng nghysgod llwyn eithin. Nid oedd neb yn agos. Ni welodd neb fi hyd