ymyl y cwmni bach a throi eu pennau i wrando. Daeth pen Cader Idris i'r golwg fan draw. Eisoes ymlonyddai'r môr. Aeth ei donnau gwynion yn wên garuaidd yn lle'n gyffro dig. Draw daeth golau'r machlud yn ogoniant dros y dŵr.
"Beth wnaeth ichi feddwl am ddod i'r ogof yma?" gofynnai Mr. Owen.
"Fel hyn y bu hi, syr," ebe Fred. "Pan oeddwn i'n dod o'r Faenol i fynd â'm cwch allan i bysgota.
"O'r Faenol?".
"Ie, syr. Fe fûm i'n was yn y Faenol am dair blynedd. Yno yr wy'n cysgu o hyd. Eleni y prynais i'r cwch."
"O, ie. Wel?"
"Tua thri o'r gloch y bore hwnnw—y pedwerydd dydd ar ddeg o Fai—pwy a welwn i ar ben y lôn ond Rita! Yr oedd wedi teithio yn y trên o Gloucester i Gaer Afon, a cherdded pob cam o'r deunaw milltir hyd yma, wedi colli'r ffordd lawer gwaith, a blino, a gorffwys mewn caeau.'
"A wyddoch chi ddim fod bws yn dod o Gaer Afon?" gofynnai Siwan.
"Yr oedd y bws olaf wedi mynd pan gyrhaeddais i Gaer Afon," atebai Rita. "Yr oedd arnaf ofn gofyn am lety yn y dref—ofn fy holi gan bobl ac ofn i Mr. a Mrs. Skinner ddod i wybod amdanaf. Felly dechreuais gerdded, a dilyn y cerrig milltir. Fe aeth yn dywyll yn fuan, ac yr oeddwn wedi blino. Fe euthum i mewn i gae i orffwys tipyn. Cysgais. Pan ddeffroais yr oedd yn olau. Ymlaen â fi eto. Yr oedd eisiau bwyd arnaf. Pan gefais siop yn agored fe brynais fiscedi, ac o dipyn