Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Monwyson.djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

At y Darllenydd.

YN Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl, 1900, cynnygiwyd gwobr o £10 am Draethawd Beirniadol ar "Y Monwyson-Lewis Morys, Richard Morys, William Morys, a Goronwy Owen "-a dyfarnwyd y wobr i awdwr y traethawd hwn. Yr oedd y feirniadaeth fel y canlyn:-

BEIRNIADAETH Y PARCH. JOHN WILLIAMS.

ANHAWDD fuasai cael pedwar Cymro, yn frodorion yr un gymydogaeth, ac yn cyd-oesi, hafal yn eu talent a'u hathrylith, yn eu gwladgarwch a'u defnyddioldeb i'r pedwar gwŷr hyn. Am y Morysiaid yr oeddynt y "tri mab o ddoniau tramawr." Golygodd Rhisiart Morys ddau Feibl Cymraeg, un yn 1746 a'r llall yn 1752; a chydolygodd Eiriadur Cymraeg a Saesneg gyda Thomas Jones. Yr oedd William Morys yn llysieuydd, yn gerddor, a bardd o radd uchel. Ac am Lewis Morys, ni bu nemor wr mwy amryfal ei ddoniau, na'r un offrymodd ei gedau yn llwyrach ar allor gwladgarwch. Rhoddai ei ddylanwad, ei gynghor, a'i arian o blaid beirdd a llenyddiaeth ei wlad. Ac nid oes neb teilyngach o gofgolofn yn ei wlad ei hun na'r gwr mawr hwn. Am Oronwy Owain fel bardd, yr oedd yn un o'r sêr disgleiriaf, os nad y disgleiriaf oll, a ymddangosodd yn ffurfafen Cymru erioed.

Dyma felly destyn teilwng mewn Eisteddfod Genedlaethol i ysgrifenu arno. Addefwn y dylasai y wobr fod yn llawer mwy, fel ag i'w wneud yn werth y drafferth i chwilio i'r trysorau gwerthfawr sydd yn yr Amgueddfa Brydeinig of eiddo Lewis Morys.