Tudalen:Y Pennaf Peth.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y gwn yn ddau ddarn. Nid oedd ganddo yn awr ond ei ddwylo noeth i ymladd â'r llewpard. Clwyfwyd a rhwygwyd ef yn enbyd.

Yn ffodus digwyddodd helwyr eraill glywed ei gri, a phrysurasant ato. Gorweddai'r dyn yn anymwybodol, a'r llewpard yn farw wrth ei ochr. Gwnaethant stretcher o ganghennau’r coed, a chludasant ef i'r pentref. Yno ceisiodd y cenhadwr ei ymgeleddu; ond yr oedd ei glwyfau mor fawr ac mor lluosog fel na feddai ar ddigon o lint a bandages a chyffyriau i'w trin yn briodol. Yr oedd yr orsaf genhadol agosaf gan milltir o ffordd oddi yno. Os oedd bywyd y dyn i'w achub, rhaid oedd i rywun gychwyn tuag yno y foment honno i geisio'r feddyginiaeth angenrheidiol. Gofynnodd y cenhadwr a wnai rhywun gynnig myned. Wedi moment o ddistawrwydd, dywedodd un gŵr ieuanc, yr hwn oedd Gristion, yn dawel, "Mi af fi, Bwana (Athro)."

Cychwynnodd ar unwaith. Can milltir yno, a chan milltir yn ôl-nid oedd un math o ffyrdd yn y wlad; rhaid oedd myned trwy leoedd anial, trwy goedwigoedd lle llechai