Tudalen:Y Trefedigaethau.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wr Meddygol yn Rhodesia Ddeheuol, am y flwyddyn a ddiweddai yn Nhachwedd 1936, fod tua 55 y cant o'r 175,000 Affricanwyr a weithiai ym mwyngloddiau'r drefedigaeth yn syrthio'n aberth i heintiau. Fe'n hysbysir "y gallai'r cyfartaledd fod wedi ei ostwng trwy ddognau haclach o fwyd, ac yn fwy fyth trwy gael ymborth briodol, achos y mae'n berffaith amlwg fod y rhan fwyaf o'r afiechyd ymhlith y brodorion hyn yn ganlyniad uniongyrchol lluniaeth anaddas a diffyg bwydydd amddiffynnol. Ond ymddengys nad oes unrhyw gymhelliad i roddi i'r brodor y maeth y mae ar ei gorff ei eisiau.

Paham, ynteu, na cheir y cymhelliad hwn? Beth yw'r rheswm fod yr Affricanwyr yn gorfod bod heb eu prydiau bwyd sylweddol a'u hesgidiau? Nid yw'r anghenion hyn yn rhai afresymol. Os yw cyfanwerth mewnforion ac allforion ein pedair trefedigaeth yng Ngorllewin Affrica wedi cynyddu, fel y gwyddom, gymaint naw gwaith yn ystod y deugain mlynedd diwethaf, beth yw'r rheswm na ellir diwallu anghenion mor syml ac elfennol? Daw'r cwestiwn hwn â ni wyneb yn wyneb â'r broblem o geisio cymodi'r ddwy elfen yn ein Mandad—ein dyletswydd tuag at bobloedd brodorol ein trefedigaethau a'n hymrwymiad i ddatblygu adnoddau'r tiriogaethau hynny er budd a lles gwareiddiad.

IV. BYWYD ECONOMAIDD YN AFFRICA DROFANNOL

(a) Anghenion y Dyn Du

Gellir dweud fod gan Affrica ddwy gyfundrefn economaidd, yr un Ewropeaidd a'r un frodorol. Trewir dyn ar un-