Tudalen:Y Trefedigaethau.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cenfigen y Pwerau "anfodlon," ond mewn byd hapusach hwyrach y gall ddiddymu gwirionedd rhai o'u cwynion. Pa fodd bynnag, boed inni bob amser gofio ein bod, yn y lle cyntaf a blaenaf, yn ymddiriedolwyr dros les y pobloedd brodorol. Ni all yr un wlad sy'n ymladd i achub Ewrop o anghyfiawnder a cham fforddio i ddioddef anghyfiawnder a cham yn Affrica Drofannol, nac yn unrhyw ran arall o'i hymerodraeth drefedigaethol. Gan hynny, y mae'n hanfodol angenrheidiol ein bod yn gallu cyfiawnhau ein dull o lywodraethu'r trefedigaethau gerbron y byd, gerbron y pobloedd darostyngedig, a cherbron ein cydwybod ni ein hunain.




Argraffwyd yng Ngwasg Gee