Tudalen:Y Wen Fro.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y BARRI

MAE'R Barri'n adnabyddus ledled byd fel porthladd pwysig a chanddo ddoc gwych a rhinwedd arbennig yn perthyn iddo. Yma, yn wahanol i Gaerdydd, gellir myned i mewn ar unrhyw adeg heb aros i'r llanw. Ym meddyliau llawer iawn o bobl, cysylltir enw'r Barri ag allforio glo o gymoedd glo Morgannwg. Yn ddiweddar, y mae ei chlod fel tref lan y môr, a chanddi draethau tywod a gro ffein iawn, yn cynyddu'n fwyfwy.

Saif Coleg Hyfforddi Morgannwg ar ben y bryn tua thrichan troedfedd uwchlaw'r môr, yn edrych allan dros y dociau. Oddi yma cawn olwg odidog ar Fôr Hafren, ac ar dair ynys—Ynys Sully, y bu Marconi yn gwneuthur prawf ar arwyddau'r di wifr ohoni; Flatholm, a'i goleudy a'i olau'n pefrio'n brydferth; a'r Steepholm, craig uchel yn y môr. Tu hwnt iddynt gwelir "Gwlad yr Haf." Edrych fel gwlad hud "dros y don," yn enwedig ar noson glir olau-leuad. Nid yw Ynys y Barri, er cadw ohoni ei henw cyntefig, yn ynys bellach, oherwydd adeiladwyd sarn, er mwyn i'r trên fedru myned iddi o'r Barri.

Yn ddiamau, yr oedd Ynys y Barri ar un adeg yn sefydliad Rhufeinig, ond gwaetha'r modd ni ŵyr y miloedd ymwelwyr a ddaw yma bob haf ddim byd am ei hanes. Darganfuwyd olion