Tudalen:Y Wen Fro.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

DYNION ENWOG A'U CYSYLLTIAD Â'R FRO

MAE llawer dyn enwog wedi aros ym Mro Morgannwg, ac wedi ymhyfrydu ym mhrydferthwch tawel ei golygfeydd. Ymwelodd John Wesley yn fynych a'r glannau hyn, a phregethodd yma droeon. Trigai mewn ffermdy yn Ffontygeri, ger Rhoose, ac ymwelodd hefyd yn aml â Ffonmon. Yn ôl hen stori, dywedir bod Wesley yn cynnal gwasanaeth yn yr awyr- agored yn Ffonmon, ac i'w wrthwynebwyr, yn eu hawydd i wasgaru'r dorf, ollwng tarw gwyllt yn rhydd er cario allan eu hamcan. Gwelir bod Eglwys Llanilltud Fawr wedi gwneuthur argraff ddofn ar Wesley, oherwydd y mae'n siarad mewn iaith gynnes iawn am ei phrydferthwch, ar ôl ei daith bregethu enwog yn Neau Cymru yn Awst 1777.

Tref ddiddorol iawn ym mro Morgannwg yw Llanilltud Fawr. Adeiladwyd hi mewn cylchoedd bychain, fel pe bai wedi ei bwriadu i fod yn lle campus i chwarae mig. Yn wir, hawdd credu'r hen stori na fedrai dieithriaid—gormeswyr o'r môr—ddianc yn rhwydd ar ôl unwaith roddi eu traed yn Llanilltud Fawr. Ni welir olion unrhyw gynllun ar y dref, ag eithrio'r ffaith mai'r Eglwys yw ei chanolfan, a phle bynnag y cerddir, deuir yn ôl at hon—canolfan gwir fywyd y dref yn yr