Tudalen:Y Wen Fro.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

LLANCARFAN

PENTREF bychan yn llawn bythynnod heirdd yw Llancarfan heddiw. Gorwedd mewn cwm dwfn tua phedair milltir o'r Bontfaen. Rhif holl drigolion y plwyf—gwŷr, gwragedd a phlant yw tua phedwar cant a hanner.

Beth am oed Llancarfan? Wrth fyned i mewn i'r pentref fe'n dygir yn ôl am ganrifoedd. Ychydig a wyddys am ei hanes cynnar, ond darganfuwyd darn o arian yno a fathwyd yn y flwyddyn 60 o oed Crist, ac y mae hwnnw'n awr yn yr Amgueddfa Brydeinig. Yn ddiamau, yr oedd yno sefydliad mynachaidd yn y bumed ganrif, a dywedir bod dwy fil o fyfyrwyr rhwng y neuaddau yn Llanfeithin a Charn Llwyd, tua milltir i fyny'r cwm o Lancarfan.

Dywed traddodiad fod y Normaniaid wedi cael gormod o ddylanwad ar sefydliad myneich Llanilltud Fawr, a bod rhai myneich, gyda'r Sant Dyfrig fel arweinydd a sefydlydd, wedi adeiladu sefydliad mwy cenedlaethol yn Llancarfan fel gwrthdystiad. Gwelwch felly fod cenedlaetholwyr yng Nghymru yn y dyddiau cynnar hynny. Fel y dywedais, sylfaenydd Llancarfan oedd Sant Dyfrig, ac ef yn ôl traddodiad oedd Esgob cyntaf Llandaf. Gwelir hyd heddiw yn ymyl Carn Llwyd ffynnon o ddwfr grisialaidd a elwir yn Ffynnon Ddyfrig.