ni'n holi wrth stesion fach a elwid Melin Gigman, croesi sticil, a cherdded drwy gaeau'n llawn blodau'r ymenyn a llygaid y dydd. Yr oedd y briallu a briallu Mair wedi darfod. Yna gwelsom yn y pellter fur isel, a thuhwnt iddo adfeilion y castell gyda rhan ohono yn awr yn ffermdy.
Nid yw'r murddyn hwn yn hynod ymhlith cestyll Morgannwg, gan fod rhai mwy mawreddog a mwy gogoneddus yn y Fro, ond y mae ganddo le tân prydferth iawn, ac ysgubor ddegwm a phorth allanol hynod ddiddorol. Dychmygaf rai ohonoch yn synnu i ni gymryd y daith hon os nad oedd rhywbeth mwy na hynny i'w weled. Ond y mae yma borth arall odiaeth o brydferth oddi mewn, ac i weled hwn y daethom.
Pan gyraeddasom y ffermdy bach, sef y gornel o'r castell a ddefnyddir yn awr fel tŷ byw, gofynasom am ganiatâd i weled y castell, a chawsom hwnnw'n rhwydd. Aethom drwy ran o'r tŷ, wedyn troi i'r chwith a'n cael ein hunain mewn adfeilion wedi eu gorchuddio â dail iorwg. Wedyn aethom drwy ddrws, ac yn sydyn fe'n cawsom ein hunain yn y cwrt oddi mewn. Ed— rychasom o'n holau ar y drws y daethom trwyddo, a synnwyd ni'n fawr, oherwydd ynghanol yr adfeilion gwelsom un o ryfeddodau saernïaeth gelfydd Cymru—Porth Prydferth Beaupré. Ar y porth Tuduraidd hwn gwelir y flwyddyn 1600 wedi ei cherfio, ynghydag arwyddair y Bassetts (perchnogion y. castell), "Gwell Angau na Chywilydd." Anodd disgrifio'r gwaith gwych hwn, ond gwelwch oddi wrth y darlun fod i'r