Tudalen:Y Wen Fro.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ynddi gorwedd delwau rhai o deulu y Berkerolles. Hwy oedd Arglwyddi Maenordy Llandathan er amser dyfodiad y Normaniaid. Efallai i chwi glywed y stori am Owain Glyn Dŵr yn cyfarfod ag un o'r teulu hwn, sef Syr Lawrence Berkerolles. Chwi gofiwch fod Shakespeare yn ei ddrama "Henry IV", yn priodoli rhyw ddylanwad hud a lledrith i enedigaeth Glyn Dŵr, oherwydd yr oedd ei fywyd yn hynod ymhob ystyr. Ni allasai neb ei ddal, ac yn wir ni ŵyr neb hyd heddiw am fan ei fedd. Dyma'r stori. Ceisiodd dieithryn urddasol gael llety yng nghastell East Orchard, cartref Syr Lawrence Berkerolles. Cafodd groeso cynnes, ac yr oedd mor hynod o ddawnus a chwrtais fel yr erfyniwyd arno am aros ysbaid. O'r diwedd dywedodd fod yn rhaid iddo gychwyn ar ei daith, ond gwasgodd ei letywr arno aros yn hwy. Câi dâl ardderchog am hynny o weled Owain Glyn Dŵr fel carcharor yn y Castell cyn y nos, oherwydd sicr oedd na allai Owain ddianc y tro hwn. Er gwaethaf y cymell aeth y gŵr dieithr ar ei ffordd, ond cyn myned diolchodd yn gynnes iawn am letygarwch eithriadol Syr Lawrence tuag at Owain Glyn Dŵr! Cafodd Syr Lawrence gymaint arswyd, medd yr hanes, fel y collodd ei leferydd!

Ond yr ydym yn crwydro. Amcan ein taith yw gweled y garreg goffa a ddodwyd yn ddiweddar y tu allan i fur yr eglwys, ger bedd John Williams yr emynydd. Brodor o Sir Forgannwg oedd, a bu fyw yn y pentref bychan hwn. Yn y ddeunawfed ganrif yr oedd yn byw, o 1728 i 1826.