Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1041

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

9:37 A digwyddodd yn y dyddiau hynny iddi fod yn glaf, a marw: ac wedi iddynt ei golchi, hwy a’i dodasant hi mewn llofft.

9:38 Ac oherwydd bod Lyda yn agos i Jopa, y disgyblion a glywsant fod Pedr yno; ac a anfonasant ddau ŵr ato ef, gan ddeisyf nad oedai ddyfod hyd atynt hwy.

9:39 A Phedr a gyfododd, ac a aeth gyda hwynt. Ac wedi ei ddyfod, hwy a’i dygasant ef i fyny i’r llofft: a’r holl wragedd gweddwon a safasant yn ei ymyl ef yn wylo, ac yn dangos y peisiau a’r gwisgoedd a wnaethai Dorcas tra ydoedd hi gyda hwynt.

9:40 Eithr Pedr, wedi eu bwrw hwy i gyd allan, a dodi ei liniau ar lawr, a weddïodd; a chan droi at y corff, a ddywedodd, Tabitha, cyfod. A hi a agorodd ei llygaid; a phan welodd hi Pedr, hi a gododd yn ei heistedd.

9:41 Ac efe a roddodd ei Iaw iddi, ac a’i cyfododd hi i fyny. Ac wedi galw y saint a’r gwragedd gweddwon, efe a’i gosododd hi gerbron yn fyw.

9:42 A hysbys fu trwy holl Jopa; a llawer a gredasant yn yr Arglwydd.

9:43 A bu iddo aros yn Jopa lawer o ddyddiau gydag un Simon, barcer.


PENNOD 10

10:1 Yr oedd rhyw ŵr yn Cesarea, a’i enw Cornelius, canwriad o’r fyddin a elwid yr Italaidd;

10:2 Gŵr defosiynol, ac yn ofni Duw, ynghyd a’i holl dŷ, ac yn gwneuthur llawer o elusennau i’r bobl, ac yn gweddïo Duw yn wastadol.

10:3 Efe a welodd mewn gweledigaeth yn eglur, ynghylch y nawfed awr o’r dydd, angel Duw yn dyfod i mewn ato, ac yn dywedyd wrtho, Cornelius.

10:4 Ac wedi iddo graffu arno, a myned yn ofnus, efe a ddywedodd, Beth sydd, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd wrtho, Dy weddïau di a’th elusennau a ddyrchafasant yn goffadwriaeth gerbron Duw.

10:5 Ac yn awr anfon wŷr i Jopa, a gyr am Simon, yr hwn a gyfenwir Pedr:

10:6 Y mae efe yn lletya gydag un Simon, barcer; tŷ‘r hwn sydd wrth y môr: efe a ddywed i ti pa beth sydd raid i ti ei wneuthur.

10:7 A phan ymadawodd yr angel oedd yn ymddiddan â Chornelius, efe a alwodd ar ddau o dylwyth ei dŷ, a milwr defosiynol o’r rhai oedd yn aros gydag ef:

10:8 Ac wedi iddo fynegi iddynt y cwbl, efe a’u hanfonodd hwynt i Jopa.

10:9 A thrannoeth, fel yr oeddynt hwy yn ymdeithio, ac yn nesáu at y ddinas, Pedr a aeth i fyny ar y tŷ i weddïo, yng¬hylch y chweched awr.

10:10 Ac fe ddaeth arno newyn mawr, ac efe a chwenychai gael bwyd. Ac a hwynt yn paratoi iddo, fe syrthiodd arno Iewyg:

10:11 Ac efe a welai y nef yn agored, a rhyw lestr yn disgyn arno, fel llenlliain fawr, wedi rhwymo ei phedair congl, a’i gollwng i waered hyd y ddaear:

10:12 Yn yr hon yr oedd pob rhyw bedwarcarnolion y ddaear, a gwylltfilod, ac ymlusgiaid, ac ehediaid y nef.

10:13 A daeth llef ato, Cyfod, Pedr, lladd, a bwyta.

10:14 A Phedr a ddywedodd, Nid felly, Arglwydd: canys ni fwyteais i erioed ddim cyffredin neu aflan.

10:15 A’r llef drachefn a ddywedodd wrtho yr ail waith, Y pethau a lanhaodd Duw, na alw di yn gyffredin.

10:16 A hyn a wnaed dair gwaith: a’r llestr; a dderbyniwyd drachefn i fyny i’r nef.

10:17 Ac fel yr oedd Pedr yn amau ynddo’i hun beth oedd y weledigaeth a welsai; wele, y gwŷr a anfonasid oddi wrth Cornelius, wedi ymofyn am dŷ Simon, oeddynt yn sefyll wrth y porth.

10:18 Ac wedi iddynt alw, hwy a ofynasant a oedd Simon, yr hwn a gyfenwid Pedr, yn lletya yno.

10:19 Ac fel yr oedd Pedr yn meddwl am y weledigaeth, dywedodd yr Ysbryd wrtho, Wele dri wŷr yn dy geisio di.

10:20 Am hynny cyfod, disgyn, a dos gyda hwynt, heb amau dim: oherwydd myfi a’u hanfonais hwynt.