Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1057

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

trosodd i Phenice, ni a ddringasom iddi, ac a aethom ymaith.

21:3 Ac wedi ymddangos o Cyprus i ni, ni a’i gadawsom hi ar y llaw aswy, ac a hwyliasom i Syria, ac a diriasom yn Nhyrus: canys yno yr oedd y llong yn dadlwytho y llwyth.

21:4 Ac wedi i ni gael disgyblion, nyni a arosasom yno saith niwrnod: y rhai a ddywedasant i Paul, trwy yr Ysbryd, nad elai i fyny i Jerwsalem.

21:5 A phan ddarfu i ni orffen y dyddiau, ni a ymadawsom, ac a gychwynasom; a phawb, ynghyd â’r gwragedd a’r plant, a’n hebryngasant ni hyd allan o’r ddinas: ac wedi i ni ostwng ar ein gliniau ar y traeth, hi a weddïasom.;

21:6 Ac wedi i ni ymgyfarch â’n gilydd, ni a ddringasom i’r llong; a hwythau a ddychwelasant i’w cartref.

21:7 Ac wedi i ni orffen hwylio o Dyrus, ni a ddaethom i Ptolemais: ac wedi inni gyfarch y brodyr, ni a drigasom un diwrnod gyda hwynt.

21:8 A thrannoeth, y rhai oedd ynghylch Paul a ymadawsant, ac a ddaethant i Cesarea. Ac wedi i ni fyned i mewn i dŷ Philip yr efengylwr, (yr hwn oedd un o’r saith,) ni a arosasom gydag ef.

21:9 Ac i hwn yr oedd pedair merched o forynion, yn proffwydo.

21:10 Ac fel yr oeddem yn aros yno ddyddiau lawer, daeth i waered o Jwdea broffwyd a’i enw Agabus.

21:11 Ac wedi dyfod atom, a chymryd gwregys Paul, a rhwymo ei ddwylo ef â’i draed, efe a ddywedodd, Hyn a ddywed yr Ysbryd Glân; Y gŵr biau y gwregys hwn a rwym yr Iddewon fel hyn yn Jerwsalem, ac a’i traddodant i ddwylo y Cenhedloedd.

21:12 A phan glywsom y pethau hyn, nyni, a’r rhai oedd o’r fan honno hefyd, a ddeisyfasom nad elai efe i fyny i Jerw¬salem.

21:13 Eithr Paul a atebodd, Beth a wnewch chwi yn wylo, ac yn torri fy nghalon i? canys parod wyf fi nid i’m rhwymo yn unig, ond i farw hefyd yn Jerwsalem, er mwyn enw yr Arglwydd Iesu.

21:14 A chan na ellid ei berswadio, ni a beidiasom, gan ddywedyd, Ewyllys yr Arglwydd a wneler.

21:15 Hefyd, ar ôl y dyddiau hynny, ni a gymerasom ein beichiau, ac a aethom i fyny i Jerwsalem.

21:16 A rhai o’r disgyblion o Cesarea a ddaeth gyda ni, gan ddwyn un Mnason o Cyprus, hen ddisgybl, gyda’r hwn y lletyem.

21:17 Ac wedi ein dyfod i Jerwsalem, y brodyr a’n derbyniasant yn llawen.

21:18 A’r dydd nesaf yr aeth Paul gyda ni i mewn at Iago: a’r holl henuriaid a ddaethant yno.

21:19 Ac wedi iddo gyfarch gwell iddynt, efe a fynegodd iddynt, bob yn un ac un, bob peth a wnaethai Duw ymhlith y Cenhedloedd trwy ei weinidogaeth ef.

21:20 A phan glywsant, hwy a ogoneddasant yr Arglwydd, ac a ddywedasant wrtho, Ti a weli, frawd, pa sawl myrddiwn sydd o’r Iddewon y rhai a gredasant; ac y maent oll yn dwyn sêl i’r ddeddf.

21:21 A hwy a glywsant amdanat ti, dy fod di yn dysgu’r Iddewon oll, y rhai sydd ymysg y Cenhedloedd, i ymwrthod â Moses; ac yn dywedyd, na ddylent hwy enwaedu ar eu plant, na rhodio yn ôl y defodau.

21:22 Pa beth gan hynny? nid oes fodd na ddêl y lliaws ynghyd: canys hwy a gânt glywed dy ddyfod di.

21:23 Gwna gan hynny yr hyn a ddywedwn wrthyt; Y mae gennym ni bedwar gwŷr a chanddynt adduned arnynt:

21:24 Cymer y rhai hyn, a glanhaer di gyda hwynt, a gwna draul arnynt, fel yr eilliont eu pennau: ac y gwypo pawb am y pethau a glywsant amdanat ti, nad ydynt ddim, ond dy fod di dy hun hefyd yn rhodio, ac yn cadw y ddeddf.

21:25 Eithr am y Cenhedloedd y rhai a gredasant, ni a ysgrifenasom, ac a farnasom, na bo iddynt gadw dim o’r cyfryw beth; eithr iddynt ymgadw oddi wrth y pethau a aberthwyd i eilunod, a gwaed, a rhag peth tagedig, a rhag puteindra.

21:26 Yna Paul a gymerth y gwŷr; a thrannoeth, gwedi iddo ymlanhau gyda hwynt, efe a aeth i mewn i’r deml; gan hysbysu cyflawni dyddiau’r glanhad, hyd oni offrymid offrwrn dros bob un ohonynt.

21:27 A phan oedd y saith niwrnod ar ddarfod, yr Iddewon oeddynt o Asia, pan welsant ef yn y deml, a derfysgasant yr holl bobl, ac a ddodasant ddwylo arno,