Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

22 A daethant yn wŷr ac yn wragedd; pob un a’r a oedd ewyllysgar ei galon a ddygasant freichledau, a chlust-dlysau, a modrwyau, a chadwynau, pob math ar dlysau aur; a phob gwr a’r a offrymmodd offrwm, a offrymmodd aur i’r Arglwydd.

23 A phob un a’r y caed gyd âg ef sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main, a blew geifr, a chrwyn hyrddod wedi eu lliwo yn gochion, a chrwyn daearfoch, a’u dygasant.

24 Pob un a’r a offrymmodd offrwm o arian a phres, a ddygasant offrwm i’r Arglwydd: a phob un a’r y caed gyd âg ef goed Sittim i ddim o waith y gwasanaeth a’i dygasant.

25 A phob gwraig ddoeth o galon a nyddodd â’i dwylo; ac a ddygasant yr edafedd sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main.

26 A’r holl wragedd y rhai y cynhyrfodd eu calonnau hwynt mewn cyfarwyddyd, a nyddasant flew geifr.

27 A’r penaethiaid a ddygasant feini onix, a meini i’w gosod ar yr ephod, ac ar y ddwyfronneg;

28 A llysiau, ac olew i’r goleuni, ac i olew yr ennaint, ac i’r arogl-darth peraidd.

29 Holl blant Israel, yn wŷr ac yn wragedd, y rhai a glywent ar eu calon offrymmu tu ag at yr holl waith a orchymynasai’r Arglwydd trwy law Moses ei wneuthur, a ddygasant i’r Arglwydd offrwm ewyllysgar.

30 ¶ A dywedodd Moses wrth feibion Israel, Gwelwch, galwodd yr Arglwydd erbyn ei enw, Bezaleel, fab Uri, fab Hur, o lwyth Judah:

31 Ac a’i llanwodd ef âg yspryd Duw, mewn cyfarwyddyd, mewn deall, ac mewn gwybodaeth, ac mewn pob gwaith;

32 I ddychymmygu cywreinrwydd, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pres,

33 Ac mewn cyfarwyddyd i osod meini, ac mewn saernïaeth pren, i weithio ym mhob gwaith cywraint.

34 Ac efe a roddodd yn ei galon ef ddysgu eraill; efe, ac Aholïab, mab Achisamach, o lwyth Dan.

35 Efe a’u llanwodd hwynt â doethineb calon, i wneuthur pob gwaith saer a chywreinwaith, a gwaith edau a nodwydd, mewn sidan glas, ac mewn porphor, ac mewn ysgarlad, ac mewn llïan main, ac i wau, gan wneuthur pob gwaith, a dychymmygu cywreinrwydd.


Pennod XXXVI.

1 Rhoddi offrwm y bobl yn llaw y gweithwyr. 5 Gorfod gwahardd haelioni y bobl. 8 Llenni y cerubiaid. 14 Y llenni o flew geifr. 19 Y babell-lèn o grwyn. 20 Y byrddau a’u morteisiau. 31 Y barrau. 35 Y wahenlen. 37 Y gaeadlen i’r drws.

Yna y gweithiodd Bezaleel ac Aholïab, a phob gwr doeth o galon, y rhai y rhoddasai yr Arglwydd gyfarwyddyd a deall ynddynt, i fedru gwneuthur holl waith gwasanaeth y cyssegr, yn ol yr hyn oll a orchymynasai yr Arglwydd.

2 A Moses a alwodd Bezaleel ac Aholïab, a phob gwr celfydd, y rhoddasai yr Arglwydd gyfarwyddyd iddo; pob un yr hwn y dug ei galon ei hun ef i nesâu at y gwaith i’w weithio ef.

3 A chymmerasant gan Moses yr holl offrwm a ddygasai meibion Israel i waith gwasanaeth y cyssegr, i’w weithio ef. A hwy a ddygasant atto ef ychwaneg o offrwm gwirfodd bob bore.

4 A’r holl rai celfydd, a’r oedd yn gweithio holl waith y cyssegr, a ddaethant bob un oddi wrth ei waith, yr hwn yr oeddynt yn ei wneuthur.

5 ¶ A llefarasant wrth Moses, gan ddywedyd, Y mae’r bobl yn dwyn mwy na digon er gwasanaeth i’r gwaith a orchymynodd yr Arglwydd ei wneuthur.

6 A Moses a roes orchymyn; a hwy a barasant gyhoeddi trwy y gwersyll, gan ddywedyd, Na wnaed na gwr na gwraig waith mwy tu ag at offrwm y cyssegr. Felly yr attaliwyd y bobl rhag dwyn mwy.

7 Canys yr ydoedd digon o ddefnydd i’r holl waith i’w wneuthur, a gweddill.

8 ¶ A’r holl rai celfydd, o’r rhai oedd yn gweithio gwaith y tabernacl, a wnaethant ddeg llèn o lïan main cyfrodedd, a sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad: â cherubiaid o waith cywraint y gwnaethant hwynt.

9 Hŷd un llèn oedd wyth gufydd ar hugain; a lled un llèn pedwar cufydd: yr un mesur oedd i’r holl lenni.

10 Ac efe a gydiodd bùm llèn wrth ei gilydd; ac a gydiodd y pùm llèn eraill wrth ei gilydd.

11 Ac efe a wnaeth ddolennau o sidan glas ar ymyl un llèn, ar ei chwrr eithaf yn y cydiad: felly y