Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1070

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

rhai? a wna eu hanghrediniaeth hwy ffydd Duw yn ofer?

3:4 Na ato Duw: eithr bydded Duw yn eirwir, a phob dyn yn gelwyddog; megis yr ysgrifennwyd, Fel y’th gyfiawnhaer yn dy eiriau, ac y gorfyddech pan y’th farner.

3:5 Eithr os yw ein hanghyfiawnder ni yn canmol cyfiawnder Duw, pa beth a ddywedwn? Ai anghyfiawn yw Duw, yr hwn sydd yn dwyn arnom ddigofaint? (yn ôl dyn yr wyf yn dywedyd;)

3:6 Na ato Duw: canys wrth hynny pa fodd y barna Duw y byd?

3:7 Canys os bu gwirionedd Duw trwy nghelwydd i yn helaethach i’w ogoniant ef, paham y’m bernir innau eto megis pechadur?

3:8 Ac nid, (megis y’n ceblir, ac megis y dywed rhai ein bod yn dywedyd,) Gwnawn ddrwg, fel y dêl daioni? y rhai y mae eu damnedigaeth yn gyfiawn.

3:9 Beth gan hynny? a ydym ni yn fwy rhagorol? Nac ydym ddim: canys ni a brofasom o’r blaen fod pawb, yr Iddewon a’r Groegwyr, dan bechod;

3:10 Megis y mae yn ysgrifenedig, Nid oes neb cyfiawn, nac oes un:

3:11 Nid oes neb yn deall; nid oes neb yn ceisio Duw.

3:12 Gwyrasant oll, aethant i gyd yn anfuddiol; nid oes un yn gwneuthur daioni, nac oes un.

3:13 Bedd agored yw eu ceg; a’u tafodau y gwnaethant ddichell; gwenwyn asbiaid sydd dan eu gwefusau:

3:14 Y rhai y mae eu genau yn llawn melltith a chwerwedd:

3:15 Buan yw eu traed i dywallt gwaed:

3:16 Distryw ac aflwydd sydd yn eu ffyrdd:

3:17 A ffordd tangnefedd nid adnabuant:

3:18 Nid oes ofn Duw gerbron eu llygaid.

3:19 Ni a wyddom hefyd am ba bethau bynnag y mae’r ddeddf yn ei ddywedyd, mai wrth y rhai sydd dan y ddeddf y mae hi yn ei ddywedyd: fel y caeer pob genau, ac y byddo’r holl fyd dan farn Duw.

3:20 Am hynny trwy weithredoedd y ddeddf ni chyfiawnheir un cnawd yn ei olwg ef; canys trwy’r ddeddf y mae adnabod pechod.

3:21 Ac yr awr hon yr eglurwyd cyf¬iawnder Duw heb y ddeddf, wrth gael tystiolaeth gan y ddeddf a’r proffwydi;

3:22 Sef cyfiawnder Duw, yr hwn sydd trwy ffydd Iesu Grist, i bawb ac ar bawb a gredant: canys nid oes gwahaniaeth:

3:23 Oblegid pawb a bechasant, ac ydynt yn ôl am ogoniant Duw;

3:24 A hwy wedi eu cyfiawnhau yn rhad trwy ei ras ef, trwy’r prynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu:

3:25 Yr hwn a osododd Duw yn iawn, trwy ffydd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawnder ef, trwy faddeuant y pechodau a wnaethid o’r blaen, trwy ddioddefgarwch Duw;

3:26 I ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn; fel y byddai efe yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu.

3:27 Pa le gan hynny y mae y gorfoledd? Efe a gaewyd allan. Trwy ba ddeddf? ai deddf gweithredoedd? Nage; eithr trwy ddeddf ffydd.

3:28 Yr ydym ni gan hynny yn cyfrif mai trwy ffydd y cyfiawnheir dyn, heb weithredoedd y ddeddf.

3:29 Ai i’r Iddewon y mae efe yn Dduw yn unig? onid yw i’r Cenhedloedd hefyd? Yn wir y mae efe i’r Cenhedloedd hefyd:

3:30 Gan mai un Duw sydd, yr hwn a gyfiawnha’r enwaediad wrth ffydd, a’r dienwaediad trwy ffydd.

3:31 Wrth hynny, a ydym ni yn gwneuthur y ddeddf yn ddi-rym trwy ffydd? Na ato Duw: eithr yr ydym yn cadarnhau’r ddeddf.


PENNOD 4

4:1 Pa beth gan hynny a ddywedwn ni ddarfod i Abraham ein tad ni ei gad, yn ôl y cnawd?

4:2 Canys os Abraham a gyfiawnhawyd trwy weithredoedd, y mae iddo orfoledd; eithr nid gerbron Duw.

4:3 Canys pa beth a ddywed yr ysgrythur? Credodd Abraham i Dduw; a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.

4:4 Eithr i’r neb sydd yn gweithio, ni chyfrifir y gwobr o ras, ond o ddyled.

4:5 Eithr i’r neb nid yw yn gweithio, ond yn credu yn yr hwn sydd yn